FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
eli sail y bedd, a'r dail ar adail mor hoewdeg, Ac uwch y tir, ysgrif hir, o'r gwir ar y garreg,-- Mai d'achos di, greulon gri, fu'n gwelwi'r fau galon; Ai dyma'r pryd, daw gynta'i gyd, iaith hyfryd o'th ddwyfron? Gorchwyl gwan rhoi llef drwy'r llan, troi'r fan yn afonydd, Rhy hwyr serch felly, ferch, i'm llannerch bydd llonydd. GADAEL RHIW. Gofid dwys a wasga 'nghalon, Adael Rhiw a'i glannau gleision, Dolau hardd lle chwardda'r meillion, A chysuron fyrdd: Gadael mangre englyn, Diliau mel, a'r delyn; Gadael can gynhenid lan, Eu cael a'u gadael gwedyn; Gadael man na sangodd achwyn; Ond er gadael ceinciau'i gorllwyn,-- _Yng ngauaf oes fe saif Trefaldwyn_, _Ar fy nghof yn wyrdd_. Trwm, rhy drwn, rhoi ymadawiad A bro na welir cuwch ar lygad, Na diffyg ar ei haul na'i lleuad, I ddylu blodau fyrdd; Troi i sych Rhydychen, O Bowys, hen bau Awen, Lletty hedd, a bwrdd y wledd, Lle'r adsain bryn a chrechwen: Gadael llon athrawon gwiwfwyn Och! ni wn pa fodd i gychwyn. &c. Try yr ymadawiad ysol, Nwyf i loesau anfelusol, Ond pa'm beiaf rhagluninethol Anorffennol ffyrdd Dyma law 'madawiad, A'r llall mi sychaf lygad; Mae'r fen gerllaw, i'm cludo draw,-- Ofer--ofer siarad; Yn iach bob dengar gwm a chlogwyn,-- Yn iach, yn iach, gyfeillion addfwyn. &c. RHYDYCHEN. AT GYFAILL. _Athrofa'r Iesu, Rhydychen, Rhagfyr 19, 1824_. Gobeithio eich bod yn myned y'mlaen gyda Lladin. Ni wyddoch pa beth a all esgor. Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth yn dysgu; a gwn na byddai yn boen i'ch meddwl llym chwi dreiddio iddi ar amnaid. Mi a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori fel hyn. Os gallwch, trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn yr ieithoedd dysgedig,--os addunedwch beidio croesi trothwy tafarn yn y Wyddgrug,--os peidiwch a chyfeillachu a neb ond dynion parchus, a phrin a rhai'ny,--os byddwch ddyfal yn eich sefyllfa,--os gyrrwch ambell i ddernyn i'r Eisteddfodau, er mwyn tynnu sylw,--os ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a gostyngedig,--ac os, gyda hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y goreu o ddynion, Mr. Clough--meddyliwn na byddai yn anhawdd nac yn dreulfawr i chwi gael trwydded yma. Y mae eich synwyr yn ormod i adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn ei gylch i gyfaill eich mynwes. Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw? Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth.
PREV.   NEXT  
|<   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Gadael

 

ymadawiad

 

gadael

 

byddai

 

Wyddgrug

 

Rhydychen

 

dreiddio

 

amnaid

 

ddatguddiaf

 

meddwl


thrafferth

 

hoewdeg

 

cynghori

 

dysgedig

 

ieithoedd

 

addunedwch

 

beidio

 

trothwy

 
croesi
 

ymhyfforddi


gallwch

 
llafur
 

bleser

 

RHYDYCHEN

 

addfwyn

 

GYFAILL

 

Athrofa

 

Rhagfyr

 

gyfeillion

 
chlogwyn

siarad
 

garreg

 

dengar

 

wyddoch

 
Gallaf
 
Lladin
 
Gobeithio
 

ysgrif

 
tafarn
 

adeiladu


synwyr

 

anhawdd

 

dreulfawr

 

trwydded

 

gyfaill

 

mynwes

 

sangech

 

cadarn

 

ddiofryd

 

unrhyw