FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37  
38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   >>   >|  
nd hon a ddwg i'm rhan Ddedwyddawl anfarwoldeb. Dysg fi yn nechre f'einioes frau I rodio llwybrau'r bywyd; A chadw'th air,--trwy fyw yn ol Ei nefol gyfarwyddyd. Fel ufudd blentyn, boed i mi Byth wneyd dy dy yn gartre, Fel caffwyf brofiad melus iawn O'i radlawn arlwyadau. Na ad im' ffol ymlygru byth, Trwy fynd i blith rhagrithwyr; Na rhedeg chwaith o lwybrau'r ne', I eiste'n lle'r gwatwarwyr. Dy santaidd waith a'th achos di A fo mi'n hyfrydwch; A gwiw gymdeithas D' anwyl blant Fy mwyniant a'm dyddanwch. Os caf gysuron ar fy nhaith, Fy melus waith fydd moli: Fy noniau oll, o galon rwydd, I'm Harglwydd gant eu rhoddi. Ond os caf gystudd drwy fy oes, A dwyn fy nghroes mewn galar, Heb ddim ond gofid ar bob cam, Gwna fi yn amyneddgar. Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf Yn nechreu haf fy mywyd; Cymhwysa f'enaid, drwy Dy ras, I deyrnas bythol wynfyd. Os hir fy nhaith, rho im' Dy hedd, Nes mynd i'r bedd i orffwys; Ac yna seiniaf gyda'th blant Dy foliant ym mharadwys. CWYNION YAMBA, Y GAETHES DDU. Er bod mewn caethiwed ymhell o fy ngwlad, 'Rwy'n cofio hoff gartref fy mam a fy nhad, Y babell, a'r goedwig, yr afon, a'r ddol; Ond byth ni chaiff Yamba ddychwelyd yn ol. Dros euraidd ororau ymlwybro wnawn gynt, Heb ofid, nac angen, yn llawen fy hynt; A'm plant o gylch gliniau fy mhriod mwyn cu, Heb neb yn fwy boddlon a dedwydd na mi. Pan unwaith yn gwasgu y bach at fy mron, A'r lleill wrth fy ymyl yn cysgi yn llon; Disgwyliwn fy mhriod, gan sio'n ddi-fraw, Heb feddwl fod dychryn na gelyn gerllaw. Ond pan yn hoff sugno awelon yr hwyr, Ar unwaith ymdoddai fy nghalon fel cwyr,-- Gweld haid o ddyn-ladron yn dyfod o'r mor, Gan guro fy mwthyn nes torri y ddor. Heb briod, na chyfaill, chwaer, brawd, mam na thad, I achub y gweiniaid crynedig rhag brad, Fe'n llusgwyd, fe'n gwthiwyd, er taered ein cri, I ddu-gell y gaeth-long at gannoedd fel ni. Wrth riddfan i gyfrif munudau'r nos hir, A threiglo'n ddiorffwys fy mhen gan ei gur, Mi gefais fy maban, ar doriad y dydd, Yn oer ac yn farw--o'i boenau yn rhydd. Hoff faban fy mynwes! I'r dyfrllyd oer fedd, Er gwaetha'r gormeswr, diangaist mewn hedd: Cei orffwys yn dawel, ni'th werthir byth mwy, Ac ni rydd y fflangell na'r gadwyn it' glwy, Ffodd llawer, fel tithau, o gyrraedd pob aeth; Ond eto mae'th gu-fam anwylaf yn gaeth; Pam rhwystrwyd i Yamba gael huno yn llon, A'i sio i orffwys yn myn
PREV.   NEXT  
|<   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37  
38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   >>   >|  



Top keywords:

orffwys

 

unwaith

 

mhriod

 

nhaith

 

llawer

 
gerllaw
 

tithau

 

dychryn

 

gyrraedd

 

feddwl


awelon
 

ladron

 

nghalon

 

ymdoddai

 

boddlon

 

dedwydd

 

rhwystrwyd

 
gliniau
 

Disgwyliwn

 

lleill


gwasgu

 

anwylaf

 

munudau

 

threiglo

 

gwaetha

 

ddiorffwys

 
gyfrif
 
riddfan
 

diangaist

 
gormeswr

gannoedd

 

mynwes

 

boenau

 
doriad
 

gefais

 

dyfrllyd

 

fflangell

 

crynedig

 
gweiniaid
 

chwaer


gadwyn

 

mwthyn

 

chyfaill

 

llawen

 

werthir

 

taered

 
llusgwyd
 
gwthiwyd
 

lwybrau

 

gwatwarwyr