FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
rddau eu hunain pan y mynnant." "Dywedasoch chwi gynnau nad oedd tadau y Careful ddim yn gapelwyr mor dynion ag ydynt hwy." "Do, my lord, mi ddywedais hynny, ac yr wyf fi yn credu hynny; ac y mae eich lady chwi a gwraig y person hefyd yn dweyd ac yn meddwl yr un peth, ac y maent am i mi arfer awdurdod fy sefyllfa i'w plygu i fyned i'r Eglwys: ac yn wir, yr wyf fi yn credu, my lord, y dylid eu plygu --eu bod hwy yn llawer mwy cyndyn nag oedd eu tadau." "Nid doeth fyddai i ni fyned i ddadl ar beth fel hyn; ond yr wyf fi yn credu eich bod chwi yn cam-gredu. Yr wyf fi yn credu fod y tadau yn llawn mor dynned anghydffurfwyr a neb sydd i'w cael yn awr. Y mae yn ffaith, yn ffaith ag sydd ar gof a chadw hyd heddyw, i geidwad parc fy hen-hen-dad cu gyduno a bwtler Judge Jeffry i gasglu mob o hogiau, hogiau mawrion; ac yr oedd rhai o honynt yn hogiau penlas, clun-gloff, a gwargam, i luchio hen-hen-dad cu y Carefuls ag wyau gorllyd, pan oedd yr hen wr yn myned i'w gapel bychan wrth Droed y Foel un bore Sabbath; ac yr ydys yn gwybod hefyd i geidwad y parc a'r bwtler gael eu cymhell a'u cynhyrfu i fynnu y sport hynny gan rywbeth a ddywedwyd ar frecwast yn nhy y Judge y bore hwnnw; a gallaf ddywedyd i chwi yn mhellach fod capelydd y Judge, a rector y plwyf, a'u gwragedd, yn brecwesla gyda'r Judge y bore hwnnw: ac yr oedd y tair lady yn llawn bywyd, ac wrth eu bodd yn cynorthwyo i dynnu cynllun sport yr wyau gorllyd; ac yr oeddynt oll ar y pryd yn disgwyl y cerbyd i'w cario at gymun sanctaidd corff a gwaed y Ceidwad wrth fwrdd allor yr Eglwys: ond aeth yr hen wr i'r capel drwy y mob, a'r poeredd, a'r llaid, a'r wyau, a heibio i gerbyd y Judge, a bu fyw a marw yn denant Cilhaul, ac yn gapelwr hefyd. Yr wyf fi yn credu fod oes yr wyau gorllyd yn un llai creulawn tuag at anghydffurwyr nag ydyw yr oes wengar foneddigaidd athrodaidd hon, pan y mae dynion da, gonest, diwyd, dirodres, yn cael eu cyfrwyswthio o'u ffermydd o herwydd eu syniadau crefyddol. Yr oedd y ceinioca gynt i brynnu wyau gorllyd yn beth llawn mor deg ag ydyw defnyddio arian treth i rannu torthau gwynion; ac yr wyf fi yn sicr ei fod yn dro llai bawaidd o'r hanner i luchio yr hen-hen-dad cu ag wyau nag ydyw yn awr i wthio ymaith ei orwyr o'r ffarm. Yr wyf yn deisyf arnoch ddyfod i ryw gytundeb a'r Carefuls. Y mae eu tadau wedi bod yn ffyddlon i ni, ac yn ymdrechgar ar yr estate am lawer oes. Ni fynnwn er dim golli y fath hen deulu. Er mwyn pob peth peidiwch a g
PREV.   NEXT  
|<   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

gorllyd

 

hogiau

 

ffaith

 

geidwad

 

Carefuls

 

dynion

 

luchio

 

bwtler

 

Eglwys

 
hunain

Cilhaul
 

creulawn

 

gapelwr

 
anghydffurwyr
 

gonest

 

dirodres

 
athrodaidd
 

denant

 
wengar
 

foneddigaidd


Ceidwad
 

sanctaidd

 

cerbyd

 

gerbyd

 

peidiwch

 

heibio

 

poeredd

 

herwydd

 

ymaith

 

fynnwn


hanner

 

deisyf

 

arnoch

 
estate
 

ffyddlon

 

gytundeb

 

ddyfod

 
bawaidd
 

brynnu

 
defnyddio

ceinioca
 
crefyddol
 

ffermydd

 

ymdrechgar

 

syniadau

 

gwynion

 

disgwyl

 

torthau

 
cyfrwyswthio
 

ddywedyd