FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61  
62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
. Y mae yn amlwg fod y steward a'i fryd yn sefydlog ar gael ein lle; ac y mae ef a'i denlu yn rhai pur gwmpasog a chyfrwys, ac yn foddlon i wneuthur pob peth et cael eu cynllun i ben." "Wel, wel, beth bynnag am hynny, gofalwch chwi am fod wrth Hotel C * * * erbyn hanner awr wedi wyth fore dydd yr Hunt. Y mae rhuthr y gawod yn awr drosodd; mi af fi, os gwelwch yn dda: yr wyf wedi addaw cyfarfod tri o'm cyfeillion ar ben Bryn Grug y Grouse am hanner awr wedi deg." Dydd yr Hunt a ddaeth; ac yr oedd Ffarmwr Careful wrth yr Hotel, yn ol ei air, erbyn y funud benodedig: ac yr oedd yn edrych yn bur dda ar ol cerdded yno ar ei draed. Ymhen pum munud ar ol iddo gyrraedd yno, gwelai Lord Protection, ei feistr tir, yn myned heibio yn mraich Squire Speedwell. Y funud y canfu y Squire Mr. Careful yno, cododd ei fys arno i ddyfod yn mlaen, a dywedodd,-- "O my lord, dyma eich hen denant John Careful, yr hwn y bum yn crybwyll wrthych am dano y nos o'r blaen." "O, ho, bore da, Mr. Careful," ebe Lord Protection; "gwn oddiwrth fy llyftau, ac oddiwrth yr hyn wyf yn glywed gan bawb, eich bod chwi yn un o'r tenantiaid goreu a mwyaf ymdrechgar a feddaf. Y mae yn wir yn ddrwg iawn gennyf eich bod yn myned i ymadael. Derbyniais air yn ddiweddar oddiwrth fy steward yn hysbysu eich bod yn cwyno ar y rhent, ac yn enwedig ar y codiad diweddaf. A ydyw y rhent mewn gwirionedd yn rhy uchel, Mr. Careful? Nis mynnwn er dim i'ch ffarm chwi fod yn rhy ddrud i chwi allu talu am dani. Nid wyf yn gallu cofio yn awr yn gywir am ei hansawdd. Nid wyf erioed wedi cael hamdden a chyfle i edrych yn fanwl dros Cilhaul Uchaf. Ydych chwi yn barnu yn gydwybodol ei bod hi yn rhy ddrud?" "Ydyw yn wir, my lord, y mae yn rhy ddrud. Yr wyf fi a'm teulu wedi gwneuthur prawf teg o hrnny. Ffarm wlyb, oer, amlwg, lechweddog, lawn o gerryg, ydyw--yn gofyn traul a llafur anghyffredin i'w thrin. Darfu i ni, yn y blynyddoedd diweddaf, wario llawer mewn gwelliantau. Yr oedd y codiad yn un trwm afresymol, ac yn un hynod o anamserol; a darfu i briswyr eraill gymeryd achlysur a mantais oddiwrth brisiad eich goruchwyliwr chwi i wneuthur niwaid mawr i ni. Yr ydym, yn wir, my lord, wedi cael cam cywilyddus; a darfu i mi gwyno wrth eich steward, a dywedyd nad oedd dim modd i mi dalu am y ffarm yn ol y rhent a'r trethoedd a'r prisiau presennol; a rhoddodd y steward i mi notice i ymadael, ac awgrymodd y byddai yn ddigon hawdd iddo osod y ffarm y diwrnod a fynno."
PREV.   NEXT  
|<   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61  
62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

Careful

 

oddiwrth

 

steward

 

edrych

 

diweddaf

 

codiad

 
Squire
 

ymadael

 

hanner

 

wneuthur


Protection
 

gydwybodol

 

Cilhaul

 

mynnwn

 

gwirionedd

 

enwedig

 

gwneuthur

 

erioed

 
hamdden
 

chyfle


hansawdd

 
llafur
 

cywilyddus

 

dywedyd

 

brisiad

 
mantais
 

goruchwyliwr

 
niwaid
 

trethoedd

 

ddigon


diwrnod

 

byddai

 

awgrymodd

 

prisiau

 

presennol

 

rhoddodd

 

notice

 
achlysur
 

gymeryd

 

gerryg


hysbysu
 
anghyffredin
 

lechweddog

 
afresymol
 
anamserol
 
briswyr
 

eraill

 

gwelliantau

 

blynyddoedd

 

llawer