wyf yn gwybod yn barod gymaint ag sydd arnaf eisieu
wybod am hanes ac am ragorion Cilhaul. Y mae yn ddrwg genyf i mi deithio
cyn belled o'm ffordd wrth ddyfod adref o'r ffair. Yr wyf am frysio yn
awr heb golli dim amser pellach i mi gael cyrraedd adref cyn nos."
Dywedodd y baili wrtho y byddai yn hollol anmhosibl iddo gyrraedd adref
erbyn nos; a thaer erfyniodd arno drachefn a thrachefn i alw yn y Green i
gael ychydig luniaeth a feed i'w ferlyn; a lletya y noson honno yn y
Green neu yn Nhgilhaul; ac y cai gychwyn adref gyda'r wawr bore
drannoeth.
"Na thanci," meddai'r hen wr, "mi af fi adref yn burion heno. Gallaf
gyrraedd adref dros y mynyddau yn lled agos erbyn nos. Bydd tipyn o
leuad yn y dechreunos. Yr wyf fi mor gyfarwydd a llwybrau y mynyddoedd
ag ydwyf a ffyrdd y gwaelodion. Y mae aderyn yn y llaw yn Hafod Hwntw yn
werth dau yn y llwyn yn Nghilhaul." Ac ar hynny, trodd yr hen wr ben ei
ferlyn broc caled tua'i gartref, a gyrrodd yn bur fywiog dros y
ffriddoedd, ac ni welodd y baili mo'i wyneb caled sych garw byth mwyach.
Ymboenodd y steward a'i deulu lawer am i'r hen wr ddychwelyd felly heb
iddynt gael ei weled; a danghosent eu nwydau drwg tuag at bawb o'u deutu
mewn edrychiad, gair, a gweithred. Yr oedd colli pob gobaith am bridden
yr hen guineas, ar ol unwaith glywed cymaint am dani, yn eu gwneyd yn
beevish ofnadwy, ac yr oeddynt dros bob mesur o wenwynllyd wrth y baili.
Aethant o'r diwedd mor gas wrtho nes y gwylltiodd yntau i'w natur ddrwg,
a dyna fe a'i galon yn berwi, a'i wefusau mawrion yn crynnu, yn torri
allan i ddweyd yn wyneb y steward a'i deulu,--
"Ni safaf fi mo hyn ddim yn hwy. Yr wyf fi wedi gwneyd fy ngoreu i chwi
bob amser, a gwyddoch chwithau hynny yn bur dda. Y mae Cilhaul wedi
costio i mi lawer iawn o ludded ac o ofid. Nid fy nghynllun i oedd
cyrchu yr Herefords a'r Southdowns yma. Cyflawnais eich eirchion yn mhob
dim yn y dull llawnaf a manylaf. Aethum yr holl ffordd i Hafod Hwntw fel
yr oeddych wedi ceisio gennyf. Collais fy ffordd yn y niwl, a bu agos
iawn i mi golli fy mywyd ar y mynydd wrth groesi Rhyd du Cors Rheidol. Yr
oedd llif y nant yn bur wyllt, ac yn bur ddwfn, ar ol y gwlawogydd.
Llwyddais i gael yr hen ddyn i lawr yn ol eich dymuniad. Gwyddech yn
burion yr amser yr oeddym i fod wrth y Cross Keys, a buasai yn hawdd iawn
i chwi neu un o'ch meibion fod yno, neu wrth Gilhaul, i gyfarfod yr hen
wr. Buasai yn rhyw foddhad i chwi eich bod wedi cael ei weled, er na
|