CILHAUL AR OSOD" oedd o flaen y llygaid pa le bynnag yr
elid. Daeth pump neu chwech o ddynion dyeithr o bell i'w golwg, ond
trodd pob un o honynt adref heb wneuthur unrhyw gynhygiad. O'r diwedd
galwodd y steward y baili ato, a dywedodd,
"Yr wyf yn ofni y rhaid i ni sefyll at Cilhaul am y flwyddyn yma; a rhaid
i ni ymroi i ffarmio gystal ag y medrwn ni. Ni geisiwn borfau mwy o
honi, ac aredig llai o honi, nag oedd Jacob Highmind yn wneyd. Rhai pur
dibrofiad a diofal oedd Jacob a'i wraig. Mi ofynnaf fi i'm cyfaill
craffus W. Wilful, Yswain, o Severn-mead, am fyned i lawr gyda chwi i
ffair Midland i brynnu Herefords a Southdowns i ni; ac yr wyf yn bur
hyderus y gwnawn yn dda iawn o'r ffarm."
Tua diwedd yr haf gofynnodd y steward i'r baili pa fodd yi oedd yr
Herefords a'r Southdowns yn troi allan.
"Drwg iawn yn wir, syr; y mae y rhosydd a'r gweunydd yn rhy wlybion ac yn
rhy frwynog iddynt, ac y mae y moelydd yn rhy oerion iddynt: dichon fod y
tymor wedi bod yn fwy anfanteisiol nag arferol; ond beth bynnag am hynny,
y maent yn edrych lawer gwaeth nag oeddynt pan ddaethant yma, ac y mae y
prisiau yn awr yn bur isel; nid allwn ni ddim cael cymaint am danynt ag
ydym ni wedi roddi, er eu bod wedi cael holl borfa llaeth ac ymenyn y
ffarm i gyd."
"Beth, baili, wyt ti yn dweyd nad allwn ni gael dim cymaint am danynt ag
a roisom?"
"Ydwyf, syr, yr wyf yn ofni hynny."
"Wel, beth gawn i wneyd, baili? Y mae hyn yn beth braidd profoclyd. O
dangio y free-traders yna
"Y mae yn rhy ddiweddar i chwi eu dangio hwy yn awr, o leiaf am eleni.
Nid oes gennym ni ddim arian mewn gafael tuag at y talion nesaf."
"Wel, gwell i ni adael cyfrifon yr hanner blwyddyn yma heb eu talu, a
chwilio am y cyfle goreu fedrir gael o hyn i ddiwedd y flwyddyn i werthu
y cyfan gyda'u gilydd, a chawn weled y pryd hynny pa fodd y bydd y
cyfrifon yn sefyll."
Ar ddiwedd y flwyddyn dygodd y baili ei gyfrifon at y steward yn ol y
gorchymyn.
"Wel, baili," meddai'r steward "ydyw'r tenantiaid yn dal i gwyno?"
"Ydynt yn wir, syr; ac y maent yn edrych yn bur ddigalon."
"A fedri di ddweyd i mi pa rai o honynt sy'n cwyno fwyaf yn erbyn y
prisiad a'r codiad diweddaf, a phrisiad y degwm; oblegid, yn wir, rhaid i
mi wneyd rhyw sylw bellach o'r rhai sy'n tuchan o hyd. O ie, ydyw
cyfrifon Cilhaul genyt ti?"
"Ydynt, syr."
"Wyt ti wedi gwneyd y balance i fyny i ni gael gweled pa fodd y maent yn
sefyll."
"Nac ydwyf, syr, ond gallaf wneyd mewn mu
|