FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50  
51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
n debyg o ddilyn ei siampl. Nid oes gennyf ddim golwg yn awr am gael gwaith, ac nis gallaf oddef meddwl am fyned ar y plwyf. Nid wyf yn hoff o'r ysmocio a'r yfed, a'r gwasanaeth afiach a budr sydd yn llawer o ardaloedd y gweithiau; ac mae fy ngwraig a minnau wedi gwneyd i fyny ein meddyliau i ymfudo ar unwaith i America ar ol ein cefnder Tomy Strong. Yr wyf newydd dderbyn llythyr annogaethol iawn oddiwrth Tomy. Costiodd y llythyr swllt i mi, er nad yw yn pwyso mo'r bumed ran o owns. Y mae Tomy, a phob un o'r bechgyn a'r merched a aethant gydag ef, yn gwneyd yn dda iawn yn America; ac yr ydym ninnnau yn penderfynu myned yno tra byddo gennym ddigon o fodd i fyned. Y mae gennym ddigon yn awr; o leiaf bydd gennym, ar ol gwerthu hynny o ddodrefn sydd gennym, ddigon i'n cario ni ein dau, a'n tri phlentyn bach, i Wisconsin. Pe baem ni yn ymdroi ac yn oedi, ac aros yn segur yn y wlad yma nes i Betsy wella ar ol y baban nesaf, mae'n bur debyg na byddai gennym ddim digon o fodd i fyned; ac felly yr ydym yn gwbl benderfynol i fyned yn awr ar unwaith. Y mae y rheilffyrdd a'r llongau yn cludo yn awr am brisiau pur resymol. Yr ydym am barotoi barilaid dda o fara ceirch ac ymenyn a chaws, a thipyn o gig moch, a phethau anghenrheidiol felly, yn ddioed: a byddwn yn wir yn ddiolchgar iawn i chwi os rhoddwch fenthyg dwy bunt i ni am bymthegnos, pan y caf fy nghyflog i dalu yn ol i chwi; ac yna ni allwn brynnu rhyw betheuach anhebgorol at y fordaith am arian parod, a bydd Betsy a minnau, os parhawn i gael ein hiechyd, yn sicr o wneyd yn dda yn America. Gwyddoch ein bod bob amser yn foddlon i weithio, a'n bod yn hoff o weithio, ac nad ydym byth yn ddedwydd os na bydd gennym ddigon o waith." Methodd calon dyner John Careful wrthod cais Billy Active yn y fath wasgfa. Estynnodd iddo y benthyg gofynedig dan bron wylo wrth feddwl am golli teulu mor ddiwyd ac mor weithgar, mor garedig ac mor onest o'r ardal: a thyna y chweched wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei ludded a'i ofal a'i dreuliau wrth "wella" Cilhaul Uchaf. [Cyflwynwyr Tysteb S. R.: sr57.jpg] Ar ol dwys fyfyrdod yn ei galon ar y pethau hyn ddydd a nos am lawer o wythnosau, teimlai John Careful fwyfwy, ac yn ddwysach ddwysach, ei fod wedi cael cam, a'u bod wedi ymddwyn yn annheg iawn tuag ato. Ac un bore, pan ydoedd ar dipyn o neges yn yr Efail wrth y dafarn, cwynodd yn lled uchel, ac mewn iaith gref, yng nghlywedigaeth rhyw segurwyr masweddgar a diog oedd yn ymlechian o am
PREV.   NEXT  
|<   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50  
51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

gennym

 

ddigon

 

America

 

Careful

 

weithio

 
ddwysach
 

unwaith

 

llythyr

 

gwneyd

 

minnau


benthyg
 

gofynedig

 

feddwl

 

ddiwyd

 

weithgar

 

garedig

 

ddedwydd

 
hiechyd
 

parhawn

 

Gwyddoch


betheuach

 

brynnu

 

anhebgorol

 

fordaith

 

foddlon

 

Active

 
wasgfa
 
wrthod
 

Methodd

 
Estynnodd

ydoedd

 

ymddwyn

 

annheg

 
dafarn
 

cwynodd

 

masweddgar

 

segurwyr

 

ymlechian

 
nghlywedigaeth
 

fwyfwy


Cilhaul

 

Cyflwynwyr

 

Tysteb

 

dreuliau

 

chweched

 

gafodd

 
Ffarmwr
 
ludded
 

wythnosau

 

teimlai