FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
n dipyn bach o golled i'r Frenhines ac i'r Eglwys, i'r person ac i'r cardotyn; ond byddai yn fendith fawr i chwi, os nad ellwch ei gosod." "O dangio di, baili, y rascal dwbl pan; paid di a cracio dy jokes creulawn fel yna i'm diraddio i." "Wel, syr, mi beidiaf fi yn rhwydd iawn; ond yr ydych chwi a'ch teulu yn ddiweddar wedi cracio pethau bryntach na jokes yn fy erbyn i, ac ni chymeraf fi ddim yn chwaneg o'r pethau hynny oddiwrth neb o honoch. Y mae yn gwaedu fy nghalon y funud yma i gofio am y triniaethau creulawn a gwarthus a gafodd y Carefuls pan dan eich stewardiaeth chwi. Yr wyf fi wedi gwneyd i fyny fy meddwl i fyned ar eu hol i America y gwanwyn nesaf. Y mae yn ofid mawr gennyf yn awr na buaswn wedi myned gyda hwy. Cymydogion teg, caredig, a boneddigaidd oeddynt. Os oeddynt yn cwyno weithiau yn erbyn gorthrymder, cawsant ddigon o achos i gwyno; ac heblaw bod yn foddlon i bawb gael eu hawliau gwladol a chrefyddol, yr oeddynt yn bur barod eu cymwynasau a'u helusenau. Yr wyf yn benderfynol i fyned ar eu hol yn ddioed. Y mae lle ardderchog yn America i failiaid ffermydd ymdrechgar a medrus. Gellwch chwilio am baili newydd yn fy lle pan y mynnoch; ac yr wyf yn gobeithio y caiff hwnnw fwy o gysur, a gwell lwc, yn Nghilhaul nag a gefais i." Dyna ychydig o hanes helyntion diweddar Cilhaul Uchaf. Ni cheisiaf ar hyn o bryd mo'u holrhain ddim pellach. Yr oedd helbul a gofidiau y steward wrth fethu gosod Cilhaul, a rhai ffermydd eraill a ddaethant ar ei law, yn ei boeni ddydd a nos. Yr oedd yr adgofion o'i ymddygiad at rai o'r tenantiaid ffyddlonaf i'w meistr a welwyd erioed yn llosgi ddyfnach ddyfnach yn ei fynwes. Yr oedd ei ddanodion ef a'i deulu i'w gilydd o'u barbareidddra dirmygus tuag at y Carefuls yn ennyn yn bur fynych fwy na llonaid y ty o fflamau annedwyddwch a chynnen. Yr oedd croes-esboniadau y steward wrth ei lord yn ddamniol i'w gymeriad fel goruchwyliwr. Glyn yr anfri wrth ei enw tra bydd byw, a glyn wrth ei goffadwriaeth am oesoedd ar ol iddo farw. Byddai darlunio y cynhennau fu yn ei deulu, a danodion ei gydoruchwylwyr, a'r modd y bu rhyngddo a'i arglwydd, a'r sport fyddai rhai o'i hen gyfeillion yn wneyd o hono o gylch bar y Cross Keys, yn bethau rhy anhawdd i mi eu llawn ddarlunio. Y mae y rhan fwyaf o'r pethau hynny wedi cael eu cadw yn secrets. Gellir dychmygu, a dychmygu yn bur gywir, ond nid doeth adrodd dim heb fod sail eglur a diamheuol iddo. Yr wyf yn clywed fod fy nghefnder
PREV.   NEXT  
|<   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

oeddynt

 

pethau

 

Cilhaul

 
steward
 
ffermydd
 

ddyfnach

 

America

 

Carefuls

 
dychmygu
 

creulawn


cracio
 

welwyd

 

adrodd

 

tenantiaid

 

ffyddlonaf

 

meistr

 

llosgi

 

dirmygus

 
fynych
 

Gellir


barbareidddra

 

gilydd

 

fynwes

 

ddanodion

 

erioed

 

adgofion

 

pellach

 

holrhain

 

nghefnder

 

helbul


gofidiau

 

cheisiaf

 
clywed
 

diamheuol

 

llonaid

 

ddaethant

 

eraill

 
ymddygiad
 
gydoruchwylwyr
 

rhyngddo


danodion

 
ddarlunio
 

Byddai

 

darlunio

 
cynhennau
 
arglwydd
 

gyfeillion

 

anhawdd

 

bethau

 

fyddai