FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53  
54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
chwi chwilio ar unwaith am ffarm lai. Hydiwch, dyma'r notice i chwi ymadael. Rhaid i mi yn awr fyned at orchwylion eraill--bore da i chwi." Rhoddodd Mr. Careful y notice yn ei logell, a dychwelodd adref gyda chalon drom iawn; a phan oedd yn gorffen adrodd wrth Jane ei wraig yr hyn oedd y steward wedi ddweyd ac wedi wneyd, daeth y tri mab yn annisgwyliadwy i'r ty. Daethant hanner awr yn gynt nag arferol, am eu bod wedi gorffen cau y gwter fawr yng ngwaelod y braenar, a galwasant heibio i'r ty am fara a chaws cyn cychwyn at eu gorchwylion yr ochr arall i'r ffarm. Deallasant ar unwaith fod rhyw newydd drwg, neu ryw amgylchiad cyfyng yn gofidio eu tad a'u mam. Bu tafodau pawb am ennyd yn fud, ond yr oedd llygaid y plant yn dadleu fod hawl ganddynt i wybod achos blinder eu rhieni. Penderfynodd y tad i beidio celu oddiwrth ei blant y notice i ymadael ydoedd newydd dderbyn, ac adroddodd wrthynt yr oll a gymerasai le. Gwrandawsant hwythau arno yn fudsynedig; ac ar ol iddo dewi, edrychasant ar eu gilydd yn bur effeithiol, ond heb yngan gair. O'r diwedd torrodd y tad ar y distawrwydd trwy ddweyd, megys wrtho ei hun, mewn llais trist isel, yn cael ei hanner fygu gan gymysg deimladau,-- "Yr oeddwn i wedi hoff-obeithio y cawswn orffen fy nyddiau yn Nghilhaul Uchaf, ac wedi breuddwydio llawer gwaith ganol dydd a chanol nos y cawsai fy llwch huno gyda llwch fy nhadau yn eu hen feddrod rhwng yr ywen fawr a drws cefn y clochdy, lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac y peidia yr annuwiol a'i gyffro." "Ie, ie," ebe y fam, "lle y mae John bach, fy nghyntafanedig anwyl, yn huno yn felus ar fynwes ei dad cu tirion, a lle y mae fy anwyl, anwyl, anw"--(ar hyn collodd y fam ei lliw--dechreuodd ei gwefusau grynu--ymrwygodd ochenaid ddofn o gronfa ei chalon; ond nis gallodd orffen ei dywediad). Wrth weled hynny, cododd y mab hynaf ei wyneb mawr llydan iach gwridog; a chyda llais dwfn, cryf, caredig, effeithiol, llawn o deimlad, naill ai teimlad o serch cynnes at ei rieni, neu ynte teimlad o ddigllonedd brwd tuag at y gormeswyr, neu dichon y ddau deimlad yn ferw cymysgedig, dywedodd,-- "O fy anwyl fam, na adewch iddynt ladd eich calon fel yna. Y maent wedi gwneyd eu gwaethaf i ni. Na hidiwch mo honynt byth mwy. Na ofnwch hwy ddim yn chwaneg. Os gwnawn ni ein dyledswydd yn y byd yma, nid yw o ddim cymaint pwys pa le bydd ein llwch yn gorffwys. Bydd yn sicr o fod allan o'u cyrraedd hwy; a byddwn yn sicr o ddihuno yn iach ar alwad
PREV.   NEXT  
|<   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53  
54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

notice

 

ddweyd

 

teimlad

 

effeithiol

 

deimlad

 

newydd

 

hanner

 

chalon

 

gorffwys

 

orffen


ymadael

 

unwaith

 

gorffen

 

nhadau

 

feddrod

 

ymrwygodd

 

ochenaid

 

gallodd

 
cododd
 

gronfa


gwefusau

 
dywediad
 

cawsai

 

tirion

 

clochdy

 

lluddedig

 

peidia

 

gyffro

 

nghyntafanedig

 
annuwiol

collodd
 

fynwes

 

dechreuodd

 

ofnwch

 
chwaneg
 
gwnawn
 
honynt
 

gwneyd

 
gwaethaf
 

hidiwch


dyledswydd

 

cyrraedd

 

byddwn

 

ddihuno

 

cymaint

 

cynnes

 

caredig

 

gwridog

 

llydan

 

ddigllonedd