FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46  
47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
af o'u tyddyn yn dir gwlyb, oer, melyn, cleiog, a phur dlawd. Yr oll a fedrent wneyd mewn cylch blwyddyn o holl gynnyrch y ffarm oedd oddeutu 185 pounds; tra yr oedd y talion--rhent, degwm, trethoedd, cyflogau, gwrteith au, porfa gaeaf, &c., &c., yn llawn 220 pounds. Ar ol llawer o lafur, ac o ludded, ac o bryder, ac ar ol rhes o ffeiriau pur farw a digalon, darfu i John Careful un bore rhent anturio crybwyll wrth y steward nad oedd dim modd iddo yn wir wneuthur y talion o'r ffarm. Edrychodd y steward yn ddu ac yn llym arno, ac atebodd yn bur sychlyd y dylai wneyd mwy o'r ffarm: ei fod ef wedi darllen rywbryd yn ddiweddar, mewn rhyw bapyr newydd, am ryw ffarmwr yn rhywle, ag oedd yn talu llawer mwy o rent nag oedd ef yn dalu, a hynny am ffarm lai na'i ffarm ef; ac ychwanegodd y byddai yn hawdd iddo osod Cilhaul Uchaf am rent uwch na'r rhent presennol. Wrth glywed y steward yn siarad mor graslyd, ac wrth ei weled yn edrych mor gibog, dywedodd John Careful dan grynnu, a'i wefusau yn gwynnu, ei fod ef a'i deulu yn awyddus i wneyd eu goreu; ac yna, heb yngan sill yn ychwaneg, ymgiliodd allan o'r ystafell yn wysg ei gefn, dan fowio i'r steward yn y dull gostyngeiddiaf. Parhodd geiriau cras y steward--"y dylai wneyd mwy o'r ffarm"--i seinio yn ei glustiau am hir amser wedi hynny. Yr oedd ef a'i wraig a'i blant yn awyddus iawn am wella y ffarm. Gwyddent y gellid ei gwella; ac yr oeddynt wedi meddwl ac ymddiddan llawer am gynllun i drin yn well; ond yr oeddynt yn ofni traul y drefn newydd. Beth bynnag, gan fod y steward wedi rhoddi awgrym mor gryf ac mor eglur iddynt am drin yn well, penderfynasant gynnyg yn deg am amryw welliantau: ac ar ol cyfnerthu y wedd, a phrynu offer newyddion, a chyflogi ychwaneg o ddwylaw, darfu i'r gwr a'r wraig a'r plant, i gyd oll yn wyth enaid, gydymroi i lafurio yn ddiflino am welliantau am dros dair blynedd. Ond ar ol gwneuthur y cyfrifiad manylaf, cawsant er eu siomedigaeth fod y draul ychwanegol tuag at welliantau yn llawn triugain punt y flwyddyn, tra nad oedd gwerth cynnyrch y gwelliantau hynny prin yn ddeugain punt y flwyddyn: ac felly eu "hennill" drwy y gwell-iantau a ddirgymhellwyd arnynt gan y steward oedd colled o ugain punt yn y flwyddyn. Yr oedd y steward, a llawer o foneddigion eraill, ac amryw o'r cymydogion, yn eu canmol yn fawr iawn ac yn fwyn iawn, am drefn dda eu tyddyn; sylwent fod wyneb a chalon eu tyddyn yn glod iddynt, ac yn brydferthwch i'r gymydogaeth: ond nid oedd
PREV.   NEXT  
|<   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46  
47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

steward

 

llawer

 

flwyddyn

 

welliantau

 

tyddyn

 
Careful
 

iddynt

 

awyddus

 

oeddynt

 

talion


newydd
 

ychwaneg

 

pounds

 

newyddion

 

cyfnerthu

 

chyflogi

 

ddwylaw

 
gellid
 

meddwl

 

seinio


gwella

 

phrynu

 

glustiau

 

penderfynasant

 

bynnag

 

Gwyddent

 
rhoddi
 
awgrym
 

gynnyg

 
ymddiddan

gynllun

 

cyfrifiad

 

arnynt

 
ddirgymhellwyd
 

colled

 

foneddigion

 

iantau

 

ddeugain

 
hennill
 

eraill


cymydogion

 

chalon

 

brydferthwch

 

gymydogaeth

 

sylwent

 

canmol

 
gwelliantau
 
ddiflino
 

blynedd

 

lafurio