awenyddol Twm Edward o'r Nant wedi
rhoddi ei ffarm i fyny, a'i fod a'i fryd ar ymfudo i ryw Canterbury
Settlement yn ynysoedd y de; a'i fod wedi parotoi hanesion manylaidd am
stewardiaeth y Green, a thenantiaeth y cwr uchaf o estate Lord
Protection, i'w cyhoeddi yn llyfr go fawr cyn iddo ymadael o'r wlad. Y
mae Twm wedi cael y cyfleusderau mwyaf manteisiol i sylwi a deall fel y
mae pethau wedi myned yn mlaen er's llawer blwyddyn yn y Green, ac yn yr
Hall, ac ar hyd yr holl estate; ac yr wyf yn sicr y bydd hanesion ac
adroddiadau Twm yn rhai cryfion ac addysgiadol, yn enwedig ei adroddiadau
o gyfrwys ddichellion y steward a'i deulu i lunio a derbyn a thraethu
clep ac athrod, ac i chwythu cynnen rhwng cymydogion, er mwyn i'r steward
drwy hynny gael achlysur i feirniadu yn yr Hall, yn nghlyw y lord a'i
gymdeithion, ar dymherau y tenantiaid, a chael achlysur hefyd i ddifrio a
gwthio ymaith y tenant ymdrechgar fydd yn rhy onest i werthu ei gydwybod
am bris dirmygol tylwyth y steward. Bydd llyfr Twm o hanes teulu y
steward yn werth ei gael, a gwnaiff les.
Yr wyf finnau yn bwriadu, pan gaf hamdden i grynhoi at eu gilydd, gyda
thipyn o ofal a manylder, fy adgofion o hanes Nant y Dderwen, a'r Clawdd
Melyn, a'r Caeau Llwydion, a'r Ffos Fach, a'r Bryn Tew, a Than yr Wtra,
a'r Berth Lwyd, a'r Gro Arw, a Glyn Carfan, a'r Coed Crin, a Llwyn y
Pryfaid, a Maes y Brwyn, a'r Gelli Lwyd, a Bryndu, a'r Bryniau Mawr, a
Thal y Bont, a'r Ty Uchel, a Garth y Drain, a Math y Dafarn; ac amryw o
ffermydd eraill oddeutu y gymydogaeth. Yn y rhan fwyaf o'r mannau a
nodwyd, cyflawnwyd anghyfiawnderau o'r fath greulonaf tuag at hen
denantiaid o'r cymeriad mwyaf ymdrechgar a ffyddlon; a dangoswyd at rai o
honynt, yn enwedig tuag at weddwon a phlant amddifaid, fath o
flagardiaeth ag y buasai yn gywilydd gan grach-stewardiaid Novogorod
feddwl am ei gyflawni.
Yr wyf fi yn gwresog garu hen wlad fy ngenedigaeth, a gwn fod y rhan
fwyaf o'm cymydogion yn hoff iawn fel finnau o'u gwlad, er tloted ydyw,
a'u bod wedi gwneuthur ymdrechion anghredadwy i geisio byw ynddi: ond pan
feddyliwyf am yr addewidion anogaethol o dal sicr am eu llafur i
amaethwyr a llafurwyr diwyd a gofalus sy'n cael eu dal allan iddynt gan
ddyffrynoedd llydain breision cyfoethog taleithiau gorllewin America, a
holl wastadedd y ddwy Canada, a phorfeydd gwelltog anherfynol
Australasia, a gwastad-diroedd iachus rhai o wledydd hyfryd Asia Leiaf a
gororau Affrica, a deniadau y Canterbury S
|