thoc, toc, toc, bion fel breuddwyd, dyma ddydd
rhent Gwyl Fair yn dyfod ar ei warthaf, ac yr oedd Mr. Jacob Highmind
druan yn gwbl amharod i dalu yn ol i'w ewythr, nac i dalu i'w arglwydd
tir nac i'r gweision. Yr oedd wedi talu ei dreth tlodion, a'r degwm, a'r
dreth Eglwys, a threth y gig a'r cwn, a dyna y cyfan; ac felly aeth
eilwaith at ei hen ewythr, ac eglurodd ei amgylchiad iddo, ac erfyniodd
arno fyned gydag ef i'r banc i fod yn feichiau yno drosto am bedwar ugain
punt. Yr oedd yn bur anhawdd gan yr hen ewythr fyned gydag ef i'r banc,
ond aeth o'i led anfodd; oblegid yr oedd yn gweled mai dyna oedd yr unig
ffordd iddo gael ei bum punt ar hugain yn ol y pryd hynny. Pan oeddynt
ill dau yn y banc, rhoddodd Highmind rywfodd na'i gilydd awgrym distaw
i'r bancer i dynnu y draft am gant a deg, yn lle am bedwar ugain; a chyn
pen yr hanner blwyddyn, yr oedd tymhor rhediad y drafft hwnnw ar ben, a'r
trydydd dydd rhent wrth y drws; a gorfu Highmind druan werthu y pigion
o'i stoc er ad-dalu y drafft hwnnw a'i logau yn y banc, ac er cyfarfod
talion eraill yr hanner blwyddyn hynny. Daethstori y banc, a gwerthiad
anamserol colledfawr cymaint o stoc Cilhaul, bob yn dipyn i glustiau y
steward, a bu geiriau go uchel a go gas rhyngddo ef a Highmind; a than
ddylanwad gofid a gwenwyn yn wyneb ei golledion, ac wrth gael ei drin,
cynhyrfodd a sorrodd Highmind gymaint fel ag y dywedodd nad allai byth
byth dalu am y ffarm yn ol y prisiau a'r talion presennol, a'i fod wedi
hollol wneuthur i fyny ei feddwl i fyned o Gilhaul gynted byth ag y
medrai; a'i bod yn ddrwg iawn ganddo fod y diwrnod iddo roddi notice am y
flwyddyn honno wedi myned heibio: ei fod yn gallu rhagweled yn ddigon
amlwg y byddai yn sicr o golli y 300 pounds goreu o'i 600 pounds cyn y
medrai gael Cilhaul oddiar ei ddwylaw. A bu yn ol ei rag-gyfrif. Wrth
arwerthu y stoc a'r offer ar derfyn y tair blynedd, cafodd ei fod wedi
colli ymhell dros dri chant o bunnau.
Deallwyd erbyn hyn mai cryn orchwyl i denant newydd--i'r mwyaf lwcus a
llafurus--fyddai gwneyd y gofynion o Gilhaul; a thaenwyd y farn am hynny
ar ol dydd ocsiwn Highmind ymhell ac agos. Gwyddai pawb nad oedd
triniaethau tair blynedd Highmind wedi gwneuthur dim lles i'r ffarm; a bu
ei henw, a "to be let," ar ei ol, am wythnosau lawer mewn llythyrenau
mawrion yn y newyddiaduron, ac uwch y tan yn yr offices, a'r news-rooms
a'r tap-rooms, ac ar byst y tollbyrth, ac ar dalcen y farchnadfa, a holl
furiau y dref. "
|