allan a myned i
gynhennu. Ein pwnc ni yn awr yw, beth gawn i wneyd o Gilhaul? Oes dim
modd i ni gael neb i'w chymeryd oddiar ein llaw?"
"Nac oes yn wir, syr, am y rhent ac yn ol y prisiau presennol; o leiaf,
yr wyf yn ofni hynny. Y mae yn Hafod Hwntw, mhell bell tudraw i
fynyddoedd Plumlimon, deulu mawr pur ddigrif. Y mae ganddynt lawer iawn
iawn o ddefaid, ac o ddyniewyd ac o geffylau bach y mynydd; ac y mae rhyw
air fod eu deadelloedd yn lluosogi weithiau mewn modd braidd dirgelaidd a
gwyrthiol. Y mae yno ryw ddwsin o blant tewion, geirwon, pengrychion,
llygadfawr; ac nid ydynt hwy na'r hen bobl byth yn myned i na llan na
chapel; ond y maent yn rhyw ffordd, trwy eu bugeiliaeth rhyfeddol, wedi
sparin llawer iawn o arian. A dywedir fod rhai o'r merched am ddyfod i
fyw dipyn yn is i lawr er mwyn cael gweled tipyn mwy o'r byd; a'u bod ar
brydiau yn bur daer am i'w tad chwilio am ffarm yn rhywle yn is i lawr."
"Ond, wyt yn sicr, baili, fod yno arian? Dylai fod sicrwydd am hynny,
oblegid dyna ein pwnc ni."
"O oes, syr, y mae yno ddigon o arian. Ni raid dim ofni am hyny. Y mae
ganddynt, heblaw y stoc fawr drom sydd yno, ddwy fil a hanner yn mortgage
ar dyddyn Gwaun y Bwlch; a dywedir fod ganddynt fil a haner o hen guineas
mewn darn o hen bridden yn y ddaear dan y fflagsen wrth draed gwely yr
hen bobl yn y siamber bellaf."
"Djail innau i, yr hen bridden honno fyddai y peth i ni yn awr, baili. Pe
medrem ni unwaith gael teulu Hafod Hwntw i Gilhaul Uchaf, ni byddem ni
ddim yn hir cyn cael adgyfodiad disglaer i'r hen guineas o'u bedd tywyll.
Mynnem ni rai ohonynt yn bur doc i gael fresh air yngoleu'r dydd, yn lle
bod yn llwydo ac yn magu y gout yn yr hen bridden."
"Ond, syr, pe baent hwy yn dyfod i fyw yn agos yma, byddai plant y
pentref yn sicr o redeg ar ol yr hen ddyn ar ddiwrnod rhent, ac ar bob
diwrnod arall, i lygadu arno, ac i estyn bysedd ar ei ol. Y mae ganddo
wasgod gron gwta gwta o wlan du y ddafad, a honno yn glytiau o bob lliw a
llun; ac y mae dwy led llaw rhwng gwaelod honno a thop ei glos lledr,
oblegid nid oes ganddo byth ddim straps i ddal ei glos i fyny. Wrth ei
weled unwaith yn didol y defaid wrth y gorlan, yr oeddwn yn disgwyl bob
munud gweled ei hen glos yn llithro i lawr dros ei grwper. Y mae ganddo
fyclau pres mawrion wrth ben ei luniau, ac ar gefnau ei esgidiau. Nid
oes ganddo ddim byd am ei wddf. Un od iawn ydyw o, ac y mae ei wraig yn
odiach nag yntau; ac yn wir, y mae bechgyn a
|