FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42  
43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   >>   >|  
wyso Ar Ei fraich alluog gref. Mewn gogoniant dirfawr eto, Heb y groes a'r goron ddrain, Disgyn gyda myrdd myrddiynau, Llawen floedd, ac uchel sain; Cwyd Ei orsedd, egyr lyfrau, Sigla seiliau dyfna'r bedd, Lleda'r wyntyll, hwylia'r clorian, Ysgwyd fry Ei farnol gledd. Pan y ffy y nefoedd heibio, Pan y byddo'r ddaer yn dan, A'r holl anwir fyd mewn cyffro, A llu'r saint yn seinio can; Pan y todda'r euog ymaith Dan lewygon bythol fraw, Boed i ni gael tawel orffwys Ar ei dirion ddeheu law. BUDDUGOLIAETHAU YR EFENGYL YN Y MIL BLYNYDDOEDD. [Dan Haul Y Prydnawn. (Bythynod yn Llanbrynmair): sr41.jpg] Efengyl oludog! Angyles trugaredd, Mae cyrrau y ddaear am weled dy wedd; Ym mantell dy harddwch, ar gerbyd dy haeledd, Dos rhagot nes llenwi y byd a dy hedd; Mae gennyt ti'n barod wledd lawn i'r newynog, A chymod i'r euog, a hardd-wisg i'r noeth, A thrysor i'w rannu rhwng tlodion anghenog, Sydd fyrdd mwy ei werth na mil myrdd o aur coeth. Mae'r byd yn ymysgwyd o gwsg mil o oesau, Gan dditif dylwythau cei roesaw i'w mysg, A gwastad balmantwyd ffyrdd rhyddion i'th gerbyd Gan feibion celfyddyd, masnachaeth, a dysg: Peiriannau tan cariad i droi dy olwynion Yw'r llon Gymdeithasau addurnant ein gwlad; A chwareu diwy'r nef mae holl dannau gorfoledd, Fod gobaith i ddyn gael ymgeledd yn rhad. Cyhoeddwyd o'r cynfyd gan lais ysbrydoliaeth Am bur effeithiolaeth diatal dy ras,-- Llwyr ofer i'r bobloedd i'th erbyn derfysgu, I lengoedd y fagddu amlygu eu cas: I'th ddilyn wrth d'alwad cwyd torf o genhadon A'u calon yn fflamio dan fedydd o dan; Ymdaenu trwy wersyll y gelyn mae'r cyffro, Mae'r delwau'n malurio yn fawrion a man. Mae'th weision yn barod i gludo'th drysorau Trwy'r 'stormydd, tros donnau trochionogy y mor; Wynebant yn llon ar dros fil o ynysoedd, I dd'weyd am oludoedd trugaredd yr Ior; Dilynant afonydd, ant trwy anial-diroedd, A dringant fynyddoedd clogwynog yr ia, I ddangos i adyn ar suddo mewn adfyd Fodd i achub ei fywyd a symud ei bla. Mae llwythau yr Oen, wrth dy weld, yn gwroli, Llawenydd a chan sy'n coroni eu pen; Mae gwresog ber anadl eu cariad a'u gweddi Yn chwalu'r cymylau fu rhyngddynt a'r nen; A gwelir ysprydoedd y perffaith gyfiawnion, Fel cwmwl o dystion ar furiau y nef, Yn plygu i wrando'u plethedig ganiadau, Gan hwylio'u telynau i ateb eu llef. Daeth Iesu o Bosra a'i ddillad yn gochion,
PREV.   NEXT  
|<   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42  
43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   >>   >|  



Top keywords:

trugaredd

 

cariad

 

cyffro

 

gerbyd

 

fawrion

 
delwau
 

malurio

 

wersyll

 

Ymdaenu

 

weision


fflamio
 

genhadon

 

fedydd

 

fagddu

 

ymgeledd

 

Cyhoeddwyd

 

cynfyd

 
gobaith
 

chwareu

 

gorfoledd


dannau

 

ysbrydoliaeth

 

drysorau

 

lengoedd

 

derfysgu

 

amlygu

 
ddilyn
 
bobloedd
 

effeithiolaeth

 
diatal

rhyngddynt

 

cymylau

 

gwelir

 
perffaith
 

ysprydoedd

 

chwalu

 

gweddi

 

coroni

 
gwresog
 

gyfiawnion


gochion

 

ddillad

 

telynau

 

hwylio

 

furiau

 

dystion

 
wrando
 
ganiadau
 

plethedig

 

Llawenydd