FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51  
52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
gylch yno, nid yn unig ar berson y plwyf, a'r degymwr, a'r cardotwyr, ond hefyd ar y meistr tir a'r steward. A'r diwrnod cyntaf oll ar ol hynny darfu i Bob Clep, neu Jack Cant, neu Mrs. Gossip, neu Bessy Tattle, gario y cyfan oll a ddywedodd, a mymryn bach dros ben hefyd, i deulu y steward; a rhoddwyd llinell ddu ar unwaith ar gyfer ei enw yn llyfr private y steward, ac anfonwyd gair am dano fel tenant ystyfnig a grwgnachlyd y prydnawn hwnnw at ei arglwydd tir, a deallwyd yn fuan drwy yr holl ardal fod John Careful druan wedi llwyr golli ffafr y steward a'i deulu. Oddeutu yr amser hynny darfu i Mr. Jacob Highmind, yr hwn oedd newydd gael pedwar cant o bunnau ar ol ei hen ewytthr o Lundain, briodi Miss Jenny Lightfoot, yr hon oedd newydd gael dau gant o bunnau iddi ei hun ar ol ei mam gu; ac yr oedd y ddeuddyn ieuainc, gan eu bod newydd briodi, yn awyddus iawn am gael ffarm er dechreu byw; ac felly darfu i Jacob un bore, wrth groesi moel ei gymydog, saethu dwy betrisen, a phrynnu pwys o'r "gunpowder tea" goreu, i'w hanfon yn anrheg i wraig y steward; ac awgrymodd yn gynnil yn ol-ysgrifen ei lythyryn boneddigaidd y byddai yn dda iawn iawn ganddo ef a'i wraig newydd Jenny gael ffarm dan Lord Protection. Yn bur fuan ar ol byn, yn lled hwyr ar noson marchnad, gweithiodd Jacob ei ffordd, drwy landlord neu landlady y Queen's Head, i ystafell y steward yno, a chafodd adeg a chyfle da iawn i ddangos ei foes i'r steward, ac i adnewyddu ei gais am ffarm cyn gynted ag y gellid ei chael. Crybwyllodd y steward wrtho yn bur ddistaw, ac fel secret i'w gadw rhag pawb, fod John Careful o'r Cilhaul Uchaf yn debyg iawn o ymadael oddiyno; ac os deuai y ffarm honno yn rhydd y gwnai y tro i'r dim iddo ef ac i'w wraig newydd. Gwyddai Jacob yn burion fod Cilhaul Uchaf mewn cyflwr a threfn da dros ben; a bowiodd yn foesgar ac isel iawn wrth ddiolch i'r steward am ei awgrym caredig. Canodd y gloch yn union am botelaid o Champagne digymysg goreu; yfodd iechyd da Lord Protection a'i stewardiaid; ac yna ymgiliodd allan, gan fowio yn foneddigaidd iawn, a gadawodd y Champagne wrth ddeheulaw y steward. Ymhen llai na mis ar ol y digwyddiad bychan yma, daeth y steward i'r gymydogaeth i gasglu ol-ddyledion; ac anfonodd i erchi am i John Careful (er nad oedd dim ol-ddyled arno ef) i ddyfod i'w gyfarfod ef i'r Queen's Head erbyn naw o'r gloch bore drannoeth. Brysiodd Mr Careful yno yn brydlawn, gan obeithio cael rhyw newydd da, drwy ei fod bob amser
PREV.   NEXT  
|<   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51  
52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

steward

 

newydd

 

Careful

 

Cilhaul

 

Champagne

 

briodi

 
Protection
 

bunnau

 

ddistaw

 

obeithio


ymadael
 

oddiyno

 

secret

 

gynted

 

ffordd

 

landlord

 

landlady

 

ystafell

 
gweithiodd
 

marchnad


chafodd

 
gellid
 

adnewyddu

 

chyfle

 

ddangos

 
Crybwyllodd
 

drannoeth

 
gadawodd
 

foneddigaidd

 

ddeheulaw


stewardiaid

 

ddyfod

 

ymgiliodd

 

anfonodd

 

ddyledion

 

ddyled

 

gasglu

 
gymydogaeth
 

digwyddiad

 

bychan


gyfarfod
 
iechyd
 

burion

 
Gwyddai
 
cyflwr
 
threfn
 

Brysiodd

 

brydlawn

 

bowiodd

 

foesgar