buasai hynny o ddim lles yn y byd. Yr oedd yn ddigon eglur o'r foment
gyntaf y daeth yr hen wr i olwg Cilhaul na wnai ymdroi dim yn ei gylch,
ond y dychwelai yn unionsyth ar draws y bryniau cyn gynted ag y medrai
tua'i hen Hafod Hwntw. Y mae yr hen wr, er ei fod yn gwisgo gwasgod
gron, a byclau dyddiau Bess, yn bur graff a hirben, ac yr wyf yn gwbl
sicr na buasai dau ddwsin o stewardiaid byth yn ei droi hanner chwarter
modfedd o'i lwybr; a byddai yn hollol wallgofrwydd i ddisgwyl i un dyn yn
ei bwyll, os bydd ganddo hanner gronyn o'r synwyr mwyaf cyffredin,
gymeryd Cilhaul dan ei beichiau presennol."
"Wel, beth wnawn ni?" meddai'r steward, dan ollwng hir ochenaid allan o
waelod ei galon. "Yr ydym ni wedi gwneyd cam trwm cas brwnt iawn a'r
Carefuls. Yr wyf yn clywed eu bod hwy yn awr wedi prynnu section hyfryd
o dir bras ffrwythlawn ar lan y Missouri."
"Ydynt, syr, y maent yn gwneyd yn rhagorol yno. Y mae ganddynt ffarm
fawr ardderchog heb ddim beichiau i'w llwytho. Y maent yn cael yno y
cnydau mwyaf godidog, heb brynnu na guano na dim arall, ac y maent yn awr
ar brynnu y sections cysylltiedig a hi. Y maent i'w cael, a theitl y
llywodraeth iddynt, am lai na chwe swllt y cyfair; ac y mae un o
railffyrdd mawrion y gorllewin yn rhedeg yn awr drwy gwrr isaf eu
tiroedd.'
"Yr wyf yn ofni felly nad oes dim gobaith i ni eu cael hwy byth yn ol, ac
y bydd Cilhaul ar ein llaw am flwyddyn eto."
"Bydd, syr, bydd Cilhaul ar eich llaw hyd ddydd brawd, os na wnewch chwi
gynnyg rhyw gyfnewidiad."
"Pa fodd y gallaf fi gynnyg unrhyw gyfnewidiad yn awr ar ol i ni ymddwyn
fel y gwnaethom tuag at y Carefuls? Pa fodd byth y wynebaf yr Audit
nesaf? Pa fodd y meiddiaf ddangos fy wyneb i'm lord? Pa beth a wnaf,
neu a ddywedaf, nis gwn yn y byd. Yn boeth ulw y bo yr hen Gilhaul yna.
Pe medrid ei gwthio i rywle o'r golwg, byddai yn drugaredd i mi. Gwynfyd
pe ceid rhyw wrach i'w rheibio."
"Yr ydych chwi wedi gwneyd hynny yn barod," ebe y baili. "Byddai yn
eithaf peth i chwi gyflogi llong fawr fawr i'w chludo draw ymhell i'r
gorllewin dros y tonnau ar ol y Carefuls. Dichon y gwnaent hwy rywbeth o
honi. Neu pe digwyddai i'r llong a hithau suddo ar fanciau tywod
Newfoundland, byddai hynny yn well fyth. Yr wyf yn gwybod y byddai yn
llawer gwell i chwi ac i'r meistr tir ei hanfon felly dros y mor nag i
chwi ei chadw ymlaen ar eich llaw i'w thrin. Costiai ei phacio i fyny
dipyn o drafferth i chwi, a byddai ei mudiad ymaith y
|