FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64  
65   66   67   68   69   >>  
s, a'ch holl adeiladau mewn trwsiad cyfaddas. Colled i chwi, yn gystal ag i'ch meistr, fyddai i chwi beidio gwneyd hynny. Gwn am ddwy neu dair o ysguboriau lle y cafodd tunelli o wair ei ddrygu y gaeaf diweddaf am fod y to yn gollwng defni. Naw mlynedd yn ol, darfu i'ch arglwydd tir fyned i draul fawr i wneuthur ffordd newydd drwy Glyn y Bedw Gleision. Bu bron iawn i mi gorsio mewn mwy nag un man ar y ffordd honno yn mis Mawrth diweddaf. Nid wyf yn meddwl i neb drwsio dim arni, nac ar ei phyllau, nac ar ei ffosydd, nac ar ei routs, nac ar y cloddiau o'i hamgylch, er y dydd y cafodd ei gorffen. Nis gwn yn sicr ar bwy y mae bai mwyaf yr esgeulusdod, pa un ai ar arolygwyr ffyrdd y dre ddegwm ai ar denantiaid yr ardal; ond yr wyf yn sicr pe buasai eich meistr tir yn dyfod ar hyd-ddi yn y Gwanwyn diweddaf, a phe buasai yn gweled ol teyrnasiad gwlawogydd naw gaeaf ar bob rhan o honi, y buasai yn gwylltio gymaint fel y buasai yn ysgubo tenantiaid yr ardal honno i ffwrdd bob un oddiar ei etifeddiaeth. A gwelais hefyd wrychoedd mawr ceimion cysgodfawr canghenog, heb gael eu torri er dyddiau y Frenhines Ann, yn lledu eu gwraidd a'u brigau ar draws ac o amgylch rhai o'r dolydd mwyaf cysgodol yn yr holl wlad. Peidiwch er dim ag aredig mwy o dir nag a fedrwch wrteithio. Bydd hynny yn sicr o achosi colled. Yr wyf yn meddwl y gwnai gwisg go dda yn awr ac eilwaith o bridd a chalch, neu o bridd a thail, i'ch porfeydd a'ch gweirgloddiau dalu yn well O lawer yn y wlad oer fas wleb anwastad yma nag i chwi lafurio i droi gormod. Gwelais y dydd o'r blaen, wrth fyned ar draws gyda'r cwn, hen domenydd llydain o dywyrch ffosydd ar ganol y gweirgloddiau gwair, yn y mannau goreu arnynt; ac yr oedd argoelion digon eglur fod y tomennau hynny wedi bod yno ar ffordd y bladur er's degau o flynyddoedd. A gwelais hefyd y cloddiau a'r ffosydd oddeutu amryw gaeau gwlybion wedi llawn gau, a'r man-ffrydiau sly yn ymlithro yn ddistaw drwy'r dydd a thrwy'r nos o'r clawdd i'r cae i andwyo y tir. Yr oeddwn bron gwylltio wrth weled hynny, eisiau fod y cloddiau a'r ffosydd yn cael eu hagor, a'r tywyrch yn cael eu cymysgu a'r hen domenydd gorsychion, a'r cyfan yn ol hynny yn cael eu cymysgu a chalch neu a thail i'w daenu dros y caeau. Gellid dyblu cynnyrch rhosydd a chaeau gwlybion yn y dull hynny. Y mae rhai yn meddwl y gellid gwneyd defnydd da o glai drwy ei olosgi. Er mwyn pob peth ymdrechwch ddyfeisio rhyw foddion er atal egriad, a llifiad ymaith y
PREV.   NEXT  
|<   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64  
65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

ffosydd

 

buasai

 

diweddaf

 

cloddiau

 

meddwl

 
ffordd
 

meistr

 

gwneyd

 

gwlybion

 

domenydd


gwylltio
 

cymysgu

 

gwelais

 

gweirgloddiau

 

chalch

 

cafodd

 

tomennau

 
argoelion
 

arnynt

 

mannau


porfeydd

 

anwastad

 

eilwaith

 

lafurio

 

Gwelais

 

gormod

 
llydain
 
dywyrch
 

gellid

 
defnydd

chaeau

 

Gellid

 

cynnyrch

 
rhosydd
 

olosgi

 

foddion

 

egriad

 

llifiad

 
ymaith
 

ddyfeisio


ymdrechwch

 

ffrydiau

 

ymlithro

 

bladur

 

flynyddoedd

 

oddeutu

 
ddistaw
 
tywyrch
 

gorsychion

 

eisiau