FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58  
59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
aleiddio yr Iwerddon drwy y blynyddoedd, nes ydynt o'r diwedd wedi torri eu tenantiaid, ac wedi torri eu hunain hefyd, ac wedi achosi tlodi mawr drwy rannau helaeth o'r wlad werdd honno. Y mae rhai parthau o Gymru wedi cael eu gwasgu i gyflwr lled Iwerddonaidd. Y mae y ffyrdd a'r adeiladau yn warth i'r oes. Y mae yn drwm iawn fod arglwyddi tiroedd mor ddiwladgarwch, mor ddiddyniolaeth, ac mor gibddall i'w lles eu hunain. Yn lle ymhyfrydu yn ffyniant ac yn nedwyddwch eu tenantiaid, y maent yn llawenychu yn ysbryd ac yn moesau gwasaidd eu caethiwed a'u tlodi. Gwyddoch yn eithaf da ein bod ni bob amser wedi byw mor gynnil ag oedd bosibl i ni. Gwnaeth hen gyfrwy fy nhad cu y tro i ni rhyngom oll tan y Gwanwyn diweddaf, pan y cawsom gyfrwy newydd cryf a rhadlawn; ac yr ydych yn cofio yn burion ddanodion y man-squires spardynawg, meibion y steward, pan yr aeth fy mrawd ieuangaf i ffair Galanmai ar gefn y cyfrwy newydd am y tro cyntaf. Rhaid i bob cyfrwy gael ei daith gyntaf rywbryd. Yr oedd fy mrawd, ar ebol du a'r cyfrwy newydd, yn edrych yn bur dda y bore hwnnw. Gwn nad anghofiwch byth mo edrychiad na geiriati ladies ieuainc drawing-room y steward pan yr aeth fy chwaer dal wridog Betsy, dair blynedd yn ol, heibio i'w ffenestr fawr yn ei shawl wlanen newydd i edrych am ei chyfnitheroedd o'r Dyffryn: ac yr ydys yn dweyd fod yr hen ffarmwr cloff diwyd Edward Sparing i lawr yn llyfr private y steward am ei fod wedi prynnu dog-cart gref dda gan ei gymydog cywrain Wheelwright Davies i'w gario ef a'i ferch wylaidd lan lanwaith Elen i farchnad yr yd a'r ymenyn. Cewch chwi weled na bydd neb yn fuan i drin y tir yn yr hen wlad lethedig yma ond personiaid a beggeriaid, a man-squires a demireps, ac uwch-stewardiaid ac is-stewardiaid, a chlepgwn a thurncoats, a gamekeepers a bailiaid; a ffarmio ardderchog arswydus fydd yn bod yma y pryd hynny. Caiff arglwyddi tiroedd weled eu camgymeriad, a theimlo eu colled y pryd hynny, ond bydd yn rhy ddiweddar iddynt edifarhau. Ni bydd dim gobaith iddynt hwy weled diwygiad cyn eu marw. Dichon y caiff y to ar ol y nesaf weled dyddiau gwell yn hen wlad wyllt Gwalia." "Ond," ebe'r tad, "a fyddai ddim yn well i ni ymfudo i ryw dalaeth Brydeinisg? Dywedir fod yn awyr iachus deheubarth Affrica filiynau ar filiynau o gyfeiriau o wastad-dir bras ffrwythlawn heb neb i'w trin. A fyddai ddim yn well i ni geisio prynnu ffarm fawr dda mewn lle felly?" "Yr wyf yn meddwl, fy nhad, na byddai. Yr w
PREV.   NEXT  
|<   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58  
59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

newydd

 

steward

 

cyfrwy

 

iddynt

 

gyfrwy

 

edrych

 
prynnu
 

squires

 

stewardiaid

 

fyddai


tenantiaid
 

tiroedd

 

arglwyddi

 

hunain

 

filiynau

 

ffrwythlawn

 

farchnad

 

personiaid

 
ymenyn
 

geisio


lethedig

 
wylaidd
 

private

 

byddai

 

meddwl

 
Edward
 

Sparing

 
beggeriaid
 

gymydog

 

cywrain


Wheelwright

 

Davies

 

lanwaith

 

wastad

 

gobaith

 

diwygiad

 

edifarhau

 
ddiweddar
 

theimlo

 

colled


ffarmwr
 
Gwalia
 

dyddiau

 
Dichon
 
ymfudo
 
chlepgwn
 

thurncoats

 

gamekeepers

 

bailiaid

 

Affrica