en, neu gyffologyn, neu gyw pheasant, neu gwningen, neu ysgyfarnog,
dyna, hwy ar unwaith wedi ymddyrysu yn rhwydau ein deddfau helwfiaeth ni;
ac wrth ymwingo i geisio dianc yn rhydd, y maent y rhan amlaf yn colli eu
tymherau, ac wedi hynny yn colli llywodraeth eu tafodau, ac bob yn dipyn
ar ol hynny yn colli eu ffermydd. Atolwg, John, a fedri di ddweyd i mi
pa faint o gost i denant ydyw cadw bytheuad neu filgi ieuanc?"
"Na fedraf, my lord, ddim dweyd hynny yn fanwl. Byddai yn drueni
creulawn hanner newynu ci ieuanc. Os caiff ei gadw yn dda, costia
gymaint a chadw mochyn; ac y mae y gofal o gadw ci ieuanc yn rhywbeth. Y
mae helgi ieuanc cryf gwresog weithiau yn bur chwareus, braidd yn rhy
chwareus ar adeg yr wyn bach; ac y mae yn anhawdd iawn gennyf feddwl am
gi ieuanc wrth ei gadwyn ddydd a nos, ac edrych arno yn neidio o'm deutu
gan ymbil arnaf a'i wen, ac a'i ddeigryn, ac a'i lygaid, ac a'i ochenaid,
am ei ollwng yn rhydd o'i gadwyn i gael rhoddi mymryn bach o dro gyda mi
drwy y coed a'r caeau."
"Ond, John, wyt ti yn golygu fod ein game ni, sef ein hadar a'n
hysgyfarnogod ni, yn peri colled i'r tenantiaid?"
"Byddai yn well gennyf, my lord, beidio ateb y gofyniad yna."
"Yn enw dyn, John, pam?"
"Am nad yw y tenant byth ar ei ennill wrthsiarad ar bwnc fel yna."
"Twt, twt, John; yr oeddwn i wedi clywed dy fod di bob amser yn barod i
ddweyd dy feddwl yn eglur a didderbynwyneb ar bob pwnc. Y mae fy
ngofyniad i yn un digon dealladwy--A ydyw ein hysgyfarnogod a'n hadar ni
yn achosi colled i'n tenantiaid?"
"Wel, ydynt, my lord, y maent; y maent yn sicr. Y mae y tenant yn cael
rhy fach yny dyddiau yma am besgi beef a mutton; ac nid yw yn cael dim am
besgi cwningod ac ysgyfarnogod, ond rhyw ychydig o wenwyn ac o ddrwg
ewyllys yn awr a phryd arall. Ni chefais i ddim cymaint o golled
oddiwrth game ag a gafodd rhai tenantiaid; ond mi wn i am rai mannau lle
y mae game yn cael brasder y porfeydd, a defnydd bara y tylwyth. Dyna'r
gwir, my lord; ond yr wyf yn ofni fy mod yn eich digio wrth ei ddweyd."
"Nac wyt yn wir, John, nac wyt yn wir. Paid a meddwl fy mod wedi
tramgwyddo o herwydd yr hyn a ddywedaist heddyw. Da iawn gennyf fy mod
wedi cael cyfle i glywed dy farn a'th deimlad am y pethau yma. Byddai yn
burion peth i ni gael adegau mynychach i glywed ein tenantiaid yn adrodd
tipyn o'u helyntion; ac yn wir yr wyf fi bron iawn a blino ar bryder a
rhwysg a rhodres bywyd uchel cyhoeddus, a rhyw ffurf-ddefodau s
|