FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52  
53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
wedi gofalu am y rhent i'r diwrnod. Ar ol disgwyl yn bur hir oddeutu y drws, cafodd ei alw i mewn. Edrychodd y steward yn llym wgus arno, a dywedodd wrtho, mewn llais cryf garw, na wnai ef ddim goddef iddo gwyno ar y codiad diweddar, fel ag yr oedd wedi gwneyd y dydd o'r blaen wrth yr Efail; fod ei rent ef yn bur resymol yn wir,--ei bod yn llawer is na rhenti ffermydd cymydogaethol arglwyddi eraill. Nid oedd Ffarmwr Careful wrth gychwyn mor fore tua'r Queen's Head, ac wrth chwysu yn ei frys i gyrraedd yno mewn pryd, ac wrth ddisgwyl yno ar ol hynny nes oeri braidd gormod--nid oedd ddim wedi dychymygu mai myned yno i gael ei drin a'i athrodi felly yr oedd wedi y cyfan: a darfu i drinfa front fawaidd felly, pan yr oedd yn agor ei glustiau a'i lygaid am ryw newydd cysurus, gynhyrfu mymryn ar ei ysbryd; ac atebodd mewn geiriau braidd cryfach nag a fyddai yn arfer ddefnyddio ar adegau felly,--ei fod ef a'i deulu wedi gwneyd eu goreu yn mhob ffordd i drin yn dda; ei fod ef a'i wraig a'i blant yn cydymroi weithio eu goreu yn fore ac yn hwyr--nad oedd byth na smocio, nac yfed, na gloddesta, na dim o'r fath beth yn eu ty; eu bod wedi gwario i drefnu a gwella y ffarm, y cyfan oll o'r chwe' chan punt a dderbyniodd ei wraig yn gynhysgaeth ar ol ei thad; ei fod yn gwbl foddlon er's blynyddau i log yr arian hynny gael myned i wneyd i fyny'r talion yn y blynyddau drwg presennol; ei fod wedi hoff-obeithio gallu cadw y 600 pounds yn gyfain i'w rhannu yn gyfartal rhwng ei ferched ufudd a diwyd ar ddydd eu priodi; ond yn awr, fod y 600 pounds i gyd oll wedi myned, ac na byddai y stoc ddim yn hollol rydd ganddo ar ol y talion nesaf; ac yn wir nad oedd dim modd iddo ef dalu am y ffarm heb gael cryn ostyngiad. Wrth glywed hyn, dywedodd y steward yn bur sychlyd wrtho,-- "Gwell i chwi ynte roddi y ffarm i fyny." "Yn wir, syr," atebai y tenant, "rhaid i mi ei rhoddi i fyny os na cheir rhyw gyfnewidiad yn fuan." "Hwdiwch ynte," ebe y steward, "dyma fi yn rhoddi i chwi notice i ymadael Gwyl Fair." Ar hyn, gostyngodd y tenant ei ben, ac atebodd mewn llais isel toredig, y byddai yn galed iawn i'w deimladau orfod ymadael o hen gartref ei dadau; ei fod ef a'i wraig a'i blant yn eu hamser goreu i drin y ffarm, ac y byddent yn foddlon i lafurio ac ymdrechu eto am flwyddyn neu ddwy mewn gobaith am amserau gwell. Ond brysatebodd y steward yn bur sarrug,-- "Yr wyf yn deall eich bod wedi gwario yn barod yr arian cefn oedd gennych. Gwell i
PREV.   NEXT  
|<   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52  
53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

steward

 

braidd

 

atebodd

 

foddlon

 

byddai

 

ymadael

 

rhoddi

 

tenant

 

pounds

 

gwario


blynyddau

 

talion

 

dywedodd

 

gwneyd

 

ostyngiad

 

ganddo

 

oddeutu

 

atebai

 
diwrnod
 

disgwyl


glywed

 
hollol
 

sychlyd

 

gyfain

 

cafodd

 

rhannu

 

Edrychodd

 

presennol

 

obeithio

 
gyfartal

priodi
 

ferched

 

flwyddyn

 

gobaith

 
ymdrechu
 
hamser
 
byddent
 

lafurio

 
amserau
 

gennych


brysatebodd

 

sarrug

 

gartref

 

Hwdiwch

 

gyfnewidiad

 

notice

 

gofalu

 

deimladau

 

toredig

 

gostyngodd