yr holl ganmoliaeth oeddynt yn gael ddim yn
gymorth iddynt at dalu hyd yn nod am hoelen pedol; ac felly colled o
ugain punt y flwyddyn oedd y wobr gyntaf a gafodd y Farmwr Careful am ei
ofal a'i ludded a'i arian gyda "gwelliantau."
Gyda bod y ffarm wedi cael ei gwella a'i threfnu yn y dull a grybwyllwyd,
daeth y steward heibio yn lled fore un diwrnod yn yr haf, pan oedd yr
ydau ar hedeg; ac wedi dweyd "bore da i chwi" wrth John Careful, ac wedi
gwneyd wyneb rhyw hanner-stewardaidd i ofyn mewn llais dienaid am iechyd
a helynt ei wraig a'i blant, dywedodd dan wenu yn bur foneddigaidd fod yn
hoff iawn ganddo weled Cilhaul Uchaf mewn calon ac mewn trefn mor
rhagorol; ei fod yn falch iawn o'r olwg oedd ar y tyddyn, a bod yn dda
ganddo fod y gair ar led fod y prisiau braidd yn codi; a bod y seneddwyr
aurhydeddus ac enwog Mr. B. a Mr. D. a Mr. Y. wedi hyfgyhoeddi yn eu
bareithiau diweddar o ben Assblock y farchnadfa eu bod am gymeryd i fyny
achos y ffarmwr yn y senedd newydd, a'u bod am adsefydlu treth yr yd a
phob cynnyrch tramor; ond ychwanegai y steward mewn llais mwyn, tyner,
isel, dan fan-gecian, fod cyfiawnder ag ymddiriedaeth y swydd bwysig oedd
ganddo fel steward yn ei orfodi i godi mymryn--mymryn bach ar y rhent.
Nis gallai ddweyd yn fanwl y bore hwnnw pa faint, ond ymrwymai y cai y
codiad fod yn bur deg a rhesymol--na chai ddim bod dros bymtheg ar hugain
y cant. "A gobeithio," meddai, "yr ewch rhagoch i wella eich ffarm,
oblegid yn y dyddiau goleu hyn o iawnder a diwygiad, pan y mae arglwyddi
tiroedd mor enwog o ran eu craffineb a'u tegwch a'u gofal, a phan y mae y
stewardiaid mor hynod o ofalus ac o gydwybodol ac o deimladwy am galonogi
y tenantiaid, bydd ffarmwyr ymdrechgar yn sicr o gael tal da am eu
llafur, a llog da am eu treuliau wrth wella eu tyddynod." A dyma oedd yr
ail wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei flynyddoedd o welliantau llafurus
a drudfawr yn Nghilhaul Uchaf.
Cyn pen teirawr ar ol i'r steward droi ei gefn, dacw bwtyn byr tew
wynebgoch pwfflyd bolfawr o ddegymwr yn dyfod drwy y nant, ac ar draws y
rhos, a thros y gwrych, a'i lyfr "counts" yn ei law, ac yn dringo i
edrych dros y wal i gyfrif y gwyddau oeddynt ar y llyn, ac yna yn estyn
ei ben drwy y twll oddiar ddrws cut yr hwch fagu i gyfrif ei thorllwyth
diweddaf; ac wedi hynny yn galw ar John Careful ato i'w holi am nifer y
defaid a'r wyn noson y cneifio diweddaf, ac i ofyn iddo amryw bethau
eraill; a rhybuddiai y degymwr y ffarmwr i fod yn b
|