FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30  
31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>   >|  
arno, Mewn gobaith hoff o'i gadw'n ir Am dymor hir heb wywo. Ond ar ddiwrnod tywyll du, Y gobaith cu ddiflannodd; Daeth awel oer 'nol heulwen haf, A'r Lili braf a wywodd; Mae'n awr yn gorwedd yn y llwch, Heb degwch yn wywedig; A'i berchen deimla dan ei bron Ei chalon yn glwyfedig. Ochenaid ddwys o'i mynwes wan, Ac egwan lef sy'n codi,-- "A raid im' golli'r olwg ar Fy hawddgar wiwber Lili? Flodeuyn hardd! dy golli raid, Er dibaid dywallt dagrau; Llwyr ddiflanedig 'nawr yw drych Dy unwaith harddwych liwiau. "Dy addurnedig wisgoedd braf, Eu gweled ni chaf mwyach; Wrth syllu ar dy le, nid wyf Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach." Ar hyn, pan ydoedd natur wan O dan y groes yn suddo, I arllwys balm i'r galon brudd Daeth gwiw Ddiddanydd heibio. Yn dirion (nid i beri braw) Ei ddeheu-law estynnai; Cyd-deimlo wnai wrth wrando'i chwyn, Ac mewn iaith fwyn dywedai, "Na wyla mwy,--dy Lili hardd Sy'n awr yng ngardd paradwys, Mewn tawel gynnes nefol fro Yn ail-flodeuo'n wiwlwys. "Ei nodd, ei ddail, ei arogl per, Ei liwiau ter a hawddgar, Rhagorach fyrdd o weithiau ynt Nag oeddynt ar y ddaear. Ei weled gei ar fyr o dro Yn gwisgo harddwch nefol: I'r ddedwydd wlad dy gyrchu wnaf, Lle t'wyna haf tragwyddol." CAN Y NEFOEDD. Fy enaid blinedig! cwyd d'edyn yn awr, Ehed trwy'r wybrennau uwch gofid y llawr, I glywed nefolion yn seinio'r trwy'r nen Fawl ganiad i'r Iesu, dy Briod a'th Ben. Mor hardd Ei frenhinwisg, mor uchel Ei sedd, Mor ddisglaer Ei goron, mor siriol Ei wedd; Aur-seren awdurdod sy'n awr ar y fron Fu gynt yn llif-waedu o glwy'r waew-ffon. Angylaidd gantorion gydunant mewn can A seintiau fil miloedd, a'u gwisgoedd yn lan; A broydd a bryniau tragwyddol y nef Trwy'r dedwydd ororau adseiniant eu llef. Y llu archangylaidd ddechreuant y gainc, Gan barchus gydblygu o amgylch Ei fainc: Y saint a'u coronau wnant balmant i'w draed, Gan felus gydganu am rinwedd ei waed. Pan daniodd Ei fynwes, pan gododd mewn brys, Gan adael Ei orsedd, a'i goron, a'i lys, A hedeg heb oedi o fynwes Ei Dad, Ar edyn trugaredd, at ddyn yn Ei waed; Pan welwyd E'n Faban mewn gwael egwan gnawd, Etifedd y nefoedd o'i wirfodd yn dlawd, Angylion a seintiau a floeddient yng nghyd, "Gogoniant trwy'r nefoedd, Tangnefedd trwy'r byd." Pan rodiai o amgylch, gan wneuthur lleshad I gloffion, a deillion, a chleifion yn rhad, Gan alw'r blinderog, yn sercho
PREV.   NEXT  
|<   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30  
31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>   >|  



Top keywords:

tragwyddol

 

hawddgar

 

amgylch

 

seintiau

 

fynwes

 
liwiau
 

gobaith

 

nefoedd

 

gloffion

 

awdurdod


siriol
 

ddisglaer

 

miloedd

 

deillion

 

lleshad

 

Angylaidd

 

gantorion

 
chleifion
 

gydunant

 

wybrennau


blinedig

 

sercho

 

NEFOEDD

 

glywed

 

blinderog

 

frenhinwisg

 
seinio
 
nefolion
 

ganiad

 
wneuthur

gododd

 

Angylion

 

wirfodd

 
daniodd
 

floeddient

 

gydganu

 

rinwedd

 

Etifedd

 
orsedd
 

trugaredd


welwyd

 

rodiai

 

ororau

 

adseiniant

 

dedwydd

 

broydd

 
bryniau
 
archangylaidd
 

coronau

 

balmant