FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29  
30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   >>   >|  
pob braw, Ac yn Ei law fe'u harwain, Nes dwyn pob un i ben ei daith Trwy hirfaith dir wylofain; Pob un a gyrraedd yn ei dro Hyfrydawl fro paradwys; Ac yno'n dawel berffaith rydd Y cant dragwyddol orffwys. MARWOLAETH Y CRISTION. Gristion hawddgar! Daeth yr adeg It' ehedeg at dy Dad; Gad dy lesgedd, hwylia'th edyn, Cyfod, cychwyn tua'th wlad; Sych dy ddagrau, dechreu ganu, Darfu'th bechu, darfu'th boen; Ti gei bellach dawel orffwys Ym mharadwys gyda'r Oen. Er fod afon angau'n donnog, A llen niwlog dros y glyn, Gwel dy Briod cu yn dyfod I'th gyfarfod y pryd hyn; Dacw'r gelyn wrth ei gadwyn, Heb ei golyn, dan ei glwy'; Dacw uffern wedi 'i maeddu:- Gristion! pam yr ofni mwy? Yn y dyffryn, er mor dywyll, Gwelaf ganwyll ddisglaer draw, Wedi 'i chynneu i'th oleuo, Rhag it' lithro ar un law; Mae dy Iesu wedi blaenu, Wedi torri grym y donn; Pam yr ofni groesi'r dyffryn? Pam mae dychryn dan dy fron? Eilia'th gan, mae'r nos yn cilio, Gwel, mae gwawl yn hulio'r glyn: Edrych trwy y niwlen deneu, Gwel drigfannau Seion fryn: Gwel, mae hyfryd wen dragwyddol, Heulwen nefol ar y wlad; Gwel mor ddisglaer deg danbeidiol Yw brenhinol lys dy Dad. Gwel y dirif seirian berlau Wisgant furiau'r nefol gaer; Gwel ei huchel byrth disgleirdeg, A'i llydain deg heolydd aur; Gwel yr afon bur redegog, Gwel y deiliog ffrwythlawn bren; Gwel y llwybrau a'r trigfannau Sydd i'r seintiau uwch y nen. Gwel y dedwydd brynedigion Yn eu gynau gwynion draw, Wedi gwisgo eu coronau, A'u telynau yn eu llaw; Yuo'n gorffwys, gyda'u gilydd, Mewn llawenydd pur dilyth, Heb na loes, na chroes, na phechod, Mwyach i'w cyfarfod byth. Gwel y gosgordd-lu yn cychwyn I'th ymofyn idd eu mysg; Gwel dy Brynwr, mewn gwen siriol, Yn ei hardd gyfryngol wisg; Clyw, mae'r clychau oll yn canu, I'th groesawu tua thref; Clyw bereiddlawn seingar donau Aur delynau cor y nef. Gwel dy gerbyd wrth yr afon, Gwel dy goron,--gad dy gledd; Cymer bellach dawel feddiant O ogoniant gwlad yr hedd, Ffarwel iti, collaf bellach Dy gyfeillach a dy wedd, Hyd nes cawn gyfarfod eto Yn y fro tu draw i'r bedd. Y LILI GWYWEDIG. Galar-gan Mam ar Farwolaeth Maban Mynwesol. Caed Lili teg, mewn hyfryd fan, Ar gorsen wan yn tyfu; Ei hawddgar liw, a'i gywrain lun, Wnai i bob un ei garu; Ei berchen o anwyldeb ai, A siriol syllai
PREV.   NEXT  
|<   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29  
30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   >>   >|  



Top keywords:

bellach

 

ddisglaer

 

cychwyn

 

hyfryd

 

dyffryn

 
gyfarfod
 

dragwyddol

 

Gristion

 

hawddgar

 

siriol


orffwys
 

gosgordd

 

Brynwr

 

ymofyn

 

seintiau

 

dedwydd

 

brynedigion

 
trigfannau
 

llwybrau

 

heolydd


redegog

 

deiliog

 

ffrwythlawn

 

gwynion

 

gwisgo

 

dilyth

 
chroes
 
phechod
 

Mwyach

 
llawenydd

gyfryngol

 

telynau

 

coronau

 
gilydd
 

gorffwys

 

cyfarfod

 

delynau

 

Mynwesol

 
Farwolaeth
 

GWYWEDIG


gorsen

 

berchen

 

anwyldeb

 

syllai

 

gywrain

 

llydain

 
gerbyd
 
seingar
 

clychau

 

groesawu