FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   70   71   72  
73   74   75   76   77   78   79   80   81   82   83   84   85   86   87   88   89   90   91   92   93   94   95   96   97   >>   >|  
l cystal a chwi, na neb chwaith sydd yn coledd ac yn mawrhau ein iaith mor anwylgu Frutannaidd. I mae ein gwlad ni yn rhwymedig i bob un o honoch: i chwi y _Llywydd_, yn enwedig, am y gofal a gymmerasoch yn golygu argraffiad diweddaf y _Bibl Cyssegrlan_, er lles tragwyddol eneidiau ein cydwladwyr. Ef a dal Duw i chwi am y gorchwyl elusengar yma, pan i bo'r byd hwn, a'i holl fawredd a'i wychder, wedi llwyr ddiflannu. Ac i mae'r wlad a'r iaith yn dra rhwymedig i'r _Gwr o Benbryn_, am gasglu cymmaint o _Hanesion ynghylch ein Hynafiaid_, na chlywodd y _Saeson_ braidd son erioed am danynt. Ef a ddelwent ddilynwyr _Camden_, pei gwelynt fal i mae yn argyhoeddi ac yn ceryddu eu beiau, a'u tuedd gwyrgam, yn bychanu ac yn distadlu y pethau nad ydynt yn eu deall; ac o wir wenwyn yn taeru mai dychymmygion diweddar ydynt. Gobeithio i cawn ni weled y trysor mawrwerthiog yma ar gyhoedd; i beri gosteg, ac i dorri rhwysg y cyfryw oganwyr ein hen hanesion. Nid bychan o les i mae _y Gwr o Gaergybi_ ynteu yn ei wneuthur, trwy gasglu _Gwaith yr hen Feirdd_ godidog gynt; ac ir wyf yn cyfaddef mai o'i lyfrau ef i cefais i y rhan fwyaf o'r odlau sydd yn canlyn. Ni fedrwn lai na dywedyd hyn am eich ewyllys da i'ch gwlad a'ch iaith; cynneddfau sydd, ysywaeth, mor brin ac anaml yn yr oes hon. Ef a ddichon hyn beri i'n gwlad agor ei llygaid, a defnyddio yn well rhagllaw yr hen ysgrifenadau sydd heb fyned ar goll. Ac os na wna hi hyny, i mae yn rhaid addef i chwi eich trioedd wneuthur eich rhan yn odiaeth. Hyn a'm hannogodd i roddi blaenffrwyth fy llafur, er nad yw ond bychan, dan eich nodded; a gobeithio nad ydyw Iwyr annheilwng i'w gyhoeddi, ag i daw rhywun cywreiniach i ddiwygio yr hyn sydd ammherffaith, ac i osod allan pethau eraill godidoccach. Nid oedd genyfi ond torri'r garw, gobeitho i daw eraill i lyfnhau a gwastattau y balciau. Yn ddiau ni fuaswn i yn cymmeryd yr orchest yma arnaf, ond darfod edliw o'r _Saeson_, nad oes genym ddim mewn Prydyddiaeth a dal ei ddangos i'r byd: a bod un o drigolion yr _Uch Alban_ gwedi cyfieithu swrn o waith hen fardd; neu yn hytrach wedi addurno a thacclu rhyw waith diweddar, a'i osod allan yn ei enw ef. Chwi a wyddoch yn dda, oddiwrth waith ein hen feirdd awduraidd ni, sydd eto i'w gweled, nad ydyw ddim tebygol fod y bardd gogleddig mor henaidd: ond nid af i i ymyrryd ag ef ym mhellach yr awron. Y mae yn ddigon genyfi roddi hyn o brawf o'n hen feirdd ein hunain i'r byd; ac os darfu i mi wneuthur c
PREV.   NEXT  
|<   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   70   71   72  
73   74   75   76   77   78   79   80   81   82   83   84   85   86   87   88   89   90   91   92   93   94   95   96   97   >>   >|  



Top keywords:
wneuthur
 

eraill

 

gasglu

 

diweddar

 

Saeson

 

rhwymedig

 
genyfi
 
feirdd
 

pethau

 
bychan

cywreiniach

 

ddiwygio

 
ammherffaith
 

rhywun

 

gyhoeddi

 

annheilwng

 

ysgrifenadau

 

rhagllaw

 
llygaid
 
defnyddio

llafur

 

nodded

 
blaenffrwyth
 
hannogodd
 

trioedd

 

odiaeth

 

gobeithio

 
darfod
 

awduraidd

 

gweled


tebygol

 

oddiwrth

 

thacclu

 

wyddoch

 
gogleddig
 

henaidd

 
ddigon
 

hunain

 
ymyrryd
 

mhellach


addurno

 

hytrach

 

fuaswn

 
cymmeryd
 

orchest

 

balciau

 

gwastattau

 

gobeitho

 

lyfnhau

 
cyfieithu