FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   70   71   72   73   74   75   76   77  
78   79   80   81   82   83   84   85   86   87   88   89   90   91   92   93   94   95   96   97   98   99   100   101   102   >>   >|  
on_ yn ei pherchi yn fawr iawn. A chan ei fod ef yn wr llys, ac yn byw yn yr oes anwybodus honno, ir oedd yr hyn a ddywedai yn cael ei dderbyn a'i roesawu gan y gwerinos, megis ped fuasai wir broffwyd. A hynny a ellir ei ddywedyd hefyd am Ferddin Emrys, a'i broffwydoliaeth. Mor anhawdd yw tynnu ofergoelion eu hynafiaid, oddiwrth un wlad neu genedl! E ddichon rhai o honoch ysgatfydd ofyn, Paham na buaswn yn cyfieithu rhai o'r Beirdd godidog diweddar, a ysgrifenasant wedi diwygio yr hen gynghanedd? I'r rhain ir wyf yn ateb, fod y Beirdd yn amser y tywysogion yn fwy ardderchog a mawryddig yn eu gwaith; ac ir oeddynt eu hunain, rai o naddunt, yn dywysogion, ac yn wyr dyledogion; yn enwedig, _Owain Cyfeiliog_, tywysog _Powys_; a _Hywel ap Owain Gwynedd_, Bardd a rhyfelwr godidog: ac felly ir oeddynt yn fwy penigamp na'r Beirdd diweddar, o ran eu testunau. Canys ir oedd y Beirdd diweddar, fel i mae _Sion Dafydd Rhys_ yn achwyn arnynt, yn gwenieithio i'r gwyr mawr, ac yn dywedyd celwydd ar eu can; ac yn haeru iddynt dorri cestyll, lladd a llosgi, pryd ir oeddynt, eb ef, yn cysgu yn eu gwelyau, heb ddim mo'r fath feddwl nac amcan ganddynt. Eithr yn amser y tywysogion, o'r gwrthwyneb, ir oedd y Beirdd yn dystion o ddewredd a mawrfrydigrwydd eu tywysogion; ac ir oeddynt eu hunain yn filwyr glewion. Ir oedd _Meilir Brydydd_ yn gennad dros _Ruffydd ap Cynan_ at frenin _Lloegr_; ac ir oedd _Gwalchmai_, ei fab, yn flaenor cad ynghyffinydd _Lloegr_ a _Chymru_; fel i maent ill dau yn tystiolaethu yn eu cerddi. Heblaw hyn, ir oedd y tywysogion yma yn fuddugawl yn eu rhyfeloedd a'r _Saeson_, ac ir oedd hynny yn peri i'r Beirdd ymorchestu, i dragywyddoli eu gweithredoedd ardderchog; ac i foli eu gwroldeb mewn achos mor glodfawr ag amddiffyn eu gwlad a'u rhyddid, yn erbyn estron genedl, a'u difuddiasei o dreftadaeth eu hynafiaid. Ir oedd y rhain yn ddiau yn destunau gwiw i Feirdd ganu arnynt, ac yn fodd cymmwys i beri i'w deiliaid eu perchi a'u hanrhydeddu; canys ir oedd y cerddi godidog yma yn cael eu datgan gyda'r delyn, mewn cyweiriau cyfaddas, mewn gwleddau yn llys y tywysog, ac yn neuaddau y pendefigion a'r uchelwyr. I mae _Giraldus_ yn dywedyd, fod y _Cymry_ mor ddrud a milwraidd yn ei amser ef, ag na rusynt ymladd yn noeth ac yn ddiarfog, a'r rhai arfog, llurugog; a'r pedydd yn erbyn y marchogion. Yn ddiau nid oedd un modd a ellid ei ddychymmygu well, i gynnal yr yspryd dihafarch yma yn ein hynafiaid, na chael eu moli gan
PREV.   NEXT  
|<   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   70   71   72   73   74   75   76   77  
78   79   80   81   82   83   84   85   86   87   88   89   90   91   92   93   94   95   96   97   98   99   100   101   102   >>   >|  



Top keywords:
Beirdd
 

tywysogion

 

oeddynt

 

hynafiaid

 

godidog

 

diweddar

 
genedl
 
Lloegr
 

cerddi

 
arnynt

hunain

 

tywysog

 
ardderchog
 

dywedyd

 

dragywyddoli

 

gweithredoedd

 

ymorchestu

 

difuddiasei

 
rhyfeloedd
 
Saeson

gwroldeb

 

amddiffyn

 
glodfawr
 
pherchi
 

estron

 

fuddugawl

 

rhyddid

 
Heblaw
 

Ruffydd

 

frenin


gennad

 

glewion

 

Meilir

 

Brydydd

 
Gwalchmai
 

tystiolaethu

 
dreftadaeth
 

Chymru

 
flaenor
 

ynghyffinydd


llurugog

 

pedydd

 

marchogion

 
ddiarfog
 

milwraidd

 

rusynt

 

ymladd

 

dihafarch

 

yspryd

 
gynnal