FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   70   71   72   73  
74   75   76   77   78   79   80   81   82   83   84   85   86   87   88   89   90   91   92   93   94   95   96   97   98   >>   >|  
yfiawnder iddynt, dyna fi wedi cyrraedd fy amcan. Pa fodd bynnag i digwyddo, i mae'n llawen genyf gael odfa i dystiolaethu fy mod yn mawrygu yn ddirfawr eich cariad a'ch traserch chwi at eich gwlad a'ch iaith; yn yr hyn i damunwn, yn ol fy ngallu, eich canlyn; a datcan, yngwydd yr holl fyd, fy mod, frodyr haeddbarch, Eich Gwasanaethwr rhwymedig, gostyngeiddiaf, EVAN EVANS. AT Y CYMRY. Pan welais fod un o _Ysgodogion Ucheldir Alban_, ac hefyd _Sais_ dysgedig, wedi cyfieithu gwaith eu hen Feirdd i'r _Saesoneg_, mi a dybygais mai nid gweddus i ni, y _Cymry_, y rhai sydd genym Gerddi awduraidd, gorhenaidd, o'r einom, fod yn llwyr ddiymdro yn y cyngaws hwnnw: o herwydd, hyd i gwn i, dyna'r unig ragorgamp celfyddyd a adawodd ein hynafiaid ini, sydd heb ei cholli. I mae _gwaith y Derwyddon_, od oedd dim gwiwgof ganddynt wedi ei ysgrifennu, wedi myned ar ddifancoll; ac nid oes dim wedi dyfod i'n hoes ni oddiwrthynt, ond y Brydyddiaeth yn unig. I mae ein hen _Fusic_ wedi ei llwyr ebargofio: nid yw'r cyweiriau cwynfanus sydd genym yr awron ond dychymmygion diweddar, pan oedd y _Cymry_ yn griddfan tan iau galed y _Saeson_. Am gelfyddydau eraill, od oedd dim mewn perffeithrwydd, i mae gwedi ei lwyr golli. Nid oes genym ddim hanes am ein hynafiaid o'n hawduron ein hunain, ond oddiwrth y Beirdd yn unig, o flaen _Gildas ap Caw_; yr hwn sydd yn ein goganu, ac yn ein llurginio, yn hytrach nag ysgrifennu cywir hanes am danom; ond fo wyr hanesyddion yr achos: heblaw hyn, i mae ei waith ef wedi myned drwy ddwylo'r _Meneich_; gwyr a fedrai yn dda ddigon dylino pob peth i'w dibenion eu hunain.--Y Beirdd, fal i tystia _Giraldus_, Arch-diacon _Brycheiniog_, oeddynt yn cadw achau y Brenhinoedd, ac yn coffau eu gweithredoedd ardderchog; ac oddiwrthynt hwy yn ddiammau i deryw i _Dysilio_ fab _Brochwel Ysgythrog_, tywysog _Powys_, ysgrifennu'r _hanes_ sydd yr awron yn myned tan enw BRUT Y BRENHINOEDD, yr hwn a ddarfu i _Galfrid ap Arthur_, o Aber Mynwy, ei gyfieithu o iaith _Llydaw_ i'r _Lladin_, ac oddiyno yn _Gymraeg_; fel i mae ef ei hunan yn cyfaddef mewn amryw hen gopiau ar femrwn, sydd etto i'w gweled yng Nghymru; ond ysywaith, e ddarfu iddo chwanegu amryw chwedlau at hanes _Tysilio_: _Flamines_ ac _Archiflamines_, a phrophwydoliaeth _Myrddin Emrys_, a phethau eraill a fuasai harddach eu gadael heibio. Ped fuasai yn dilyn y Beirdd, e fuasai genym gywirach hane
PREV.   NEXT  
|<   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   70   71   72   73  
74   75   76   77   78   79   80   81   82   83   84   85   86   87   88   89   90   91   92   93   94   95   96   97   98   >>   >|  



Top keywords:

ysgrifennu

 

Beirdd

 

fuasai

 

hynafiaid

 

ddarfu

 

oddiwrthynt

 

eraill

 

hunain

 

gwaith

 
dibenion

Giraldus

 
dylino
 
tystia
 

hytrach

 
llurginio
 

goganu

 

oddiwrth

 

Gildas

 
Meneich
 

fedrai


ddwylo

 

hanesyddion

 

heblaw

 
ddigon
 
Nghymru
 

ysywaith

 

chwedlau

 

chwanegu

 

gweled

 

cyfaddef


gopiau

 
femrwn
 

Tysilio

 

Flamines

 

heibio

 

gywirach

 

gadael

 

harddach

 
phrophwydoliaeth
 

Archiflamines


Myrddin
 
phethau
 

Gymraeg

 

oddiyno

 

ardderchog

 

ddiammau

 

hawduron

 
Dysilio
 

gweithredoedd

 
coffau