cyfieithu yn odidog: ond i mae arnafi ofn, wedi'r cwbl, fod yr _Ysgodog_
yn bwrw hug ar lygaid dynion, ac nad ydynt mor hen ag i mae ef yn taeru
eu bod. I mae'r _Gwyddelod_ yn arddelw _Ossian_ megis un o'u cydwladwyr
hwynt; ac i mae amryw bethau yn y cerddi a gyhoeddwyd yn ei enw, yn
dangos, yn fy nhyb i, oes ddiweddarach nag i mae'r cyfieithydd yn son am
dani; yn enwedig dyfodiad Gwyr _Llychlyn_ i'r _Iwerddon_, yr hyn ni
ddigwyddodd, meddai hanesyddion yr _Iwerddon_, cyn y flwyddyn 700. Ac ni
ddaeth yr _Ysgodogion_ chwaith i sefydlu yn yr _Alban_, o flaen _Fergus
Mac Ein_, ynghylch y flwyddyn 503; fal i mae _William Llwyd_, Esgob
_Caerwrangon_, wedi ei brofi yn ddiwrthadl, yn ei lyfr ynghylch
llywodraeth eglwysig. Ond pei canniatteid eu bod hwy yno cyn hynny, ni
fyddai hynny ronyn nes i brofi _Ossian_ mor hyned ag i dywedir ei fod. O
herwydd ped fuasai, pa fodd i mae ei gyfieithydd yn medru ei ddeongli mor
hyfedr? I mae gwaith ein Beirdd ni, sydd gant o flynyddoedd ar ol hynny,
tu hwnt i ddeall y gwir cywreiniaf a medrusaf yn yr hen _Frutaniaith_.
Pwy o honom ni a gymerai'r _Gododin_, gwaith _Aneurin Gwawdrydd_,
Fychdeyrn Beirdd, a'i gyfieithu mor llathraidd ag i gwnaeth cyfieithydd
_Ffingal_ a _Themora_? Ir wyfi yn meddwl nad oes neb a ryfygei gymmeryd
y fath orchest arno. Prin iawn i medreis i ddeongli rhai pennillion o
hono yma a thraw, y rhai a ellwch eu gweled yn y traethawd _Lladin_
ynghylch y Beirdd. A gresyn yw ei fod mor dywyll, o herwydd, hyd ir wyf
fi yn ei ddeall, gwaith godidog ydyw. Yr un peth a ellir ei ddywedyd am
_Daliesin_ Ben Beirdd, nid oes neb heddyw, hyd i gwn i, a fedr gyfieithu
yn iawn un o'i Awdlau na'i Orchanau. Myfi a wn fod amryw Frudiau ar hyd
y wlad, wedi eu tadogi ar _Daliesin_ a _Myrddyn_; ond nid ydynt ond
dychymygion diweddar, gwedi eu ffurfeiddio ar ol marwolaeth _Llywelyn ap
Gruffydd_. Yn enwedig yn amseroedd terfysglyd _Owain Glyndwr_, a'r
ymdrech rhwyg pleidiau _Efrog_ a _Lancaster_. I mae hefyd eraill, gwedi
eu lluniaethu gan y Meneich, i atteb eu dibenion hwythau; ond i mae'r
rhain oll yn hawdd eu gwahanu oddiwrth awduraidd waith _Taliesin_, wrth
yr iaith.--I mae yn ddiammau genyf, fod y bardd yma yn odidog yn ei
amser. Ir oedd yn gydnabyddus ag athrawiaith y _Derwyddon_ am y [Greek
text], a'r Daroganau, y rhai oeddynt yn ddiammau, weddillion o'r Credo
paganaidd; canys nid yw daroganu ddim arall ond mynegi pethau i ddyfod,
oddiwrth y _Ddar_, yr hon ir oeddynt y _Derwydd
|