FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   70   71   72   73   74   75  
76   77   78   79   80   81   82   83   84   85   86   87   88   89   90   91   92   93   94   95   96   97   98   99   100   >>   >|  
en _Frython_ gynt. Ond i ddyfod weithion at y Beirdd, yr rhai a adawsom ar ol. Ef a ddarfu imi gyfieithu ychydig odlau o'u gwaith, trwy annogaeth gwyr dysgedig o _Loegr_; ac mi a ewyllysiwn wneuthur o honof hynny er clod iddynt; ond i mae yn rhaid im' adael hynny ym marn y darllenyddion: ac nid oes genyfi ddim i'w ddywedyd, os drwg yw'r cyfieithiad, nad arnaf i yn llwyr i mae'r bai yn sefyll; o herwydd i maent y Beirdd yn ddiammau yn orchestol odiaeth; ond i mae'n rhaid addef hefyd eu bod yn anhawdd afrifed eu deongli, o herwydd eu bod yn llawn o eiriau sydd yr awron wedi myned ar gyfrgoll: ac nid ydynt wedi eu heglurhau mewn un Geiriadur argraffedig nac ysgrifenedig a welais i. Ir oedd yr Athraw hynod o _Fallwyd_, yr hwn a astudiodd yr iaith er lles cyffredin y wlad, dros holl ddyddiau ei einioes, yn methu eu deongli. Ac ni wnaeth y dysgedig Mr. _Edward Llwyd_ o'r _Musaeum_, gamp yn y byd yn y perwyl yma, er ei fod yn gydnabyddus a holl geinciau prifiaith _Prydain_. Ac yn ddiau o'r achos yma, nid oedd genyfi ddim ond ymbalfalu am ystyr a synwyr y Beirdd, mewn llawer man, oddiwrth flaen ac ol. Ir wyf yn rhyfeddu'n ddirfawr am rai o'r _Cymry_ sydd yn haeru fod gwaith _Taliesin_, a'i gydoesiaid _Aneurin Gwawdrydd_, _Llywarch Hen_, a _Merddin Wyllt_, yn hawdd eu deall. Yn ddiau nid wyf i yn deall mo honynt, ac i mae'r rhai dysgediccaf yn yr iaith, y to heddyw, yn addef yr un peth. I mae'r Beirdd, hir oesoedd gwedi hyny, sef ar ol dyfodiad _Gwilym Fasdardd_, hyd farwolaeth, _Llywelyn ap Gruffydd_, yn dywyll iawn; fal i gellwch weled oddiwrth yr odlau sydd yn canlyn. Hyn a barodd i mi beidio a chyfieithu chwaneg o honynt y tro yma, rhag ofn imi, trwy fy anwybodaeth, wneuthur cam a hwynt. Ond gan i'r _Saeson_ daeru, na feddwn ddim mewn prydyddiaeth a dal ei ddangos; mi a wnaethum fy ng'orau er cyfieithu y Casgliad bychan yma, i fwrw heibio, os yw bossibl, y gogan hwnnw: ac yn ddiau, os na wyddodd genyf wneuthur hyny, i mae yn rhaid i'r Beirdd, a'm cydwladwyr, faddeu imi; a gobeithio i derbyniant fy ewyllys da, herwydd na ddichon neb wneuthur ond a allo.--Heblaw hyn oll, i mae hyn o waith yn dyfod i'r byd, mewn amser anghyfaddas i ymddangos mewn dim prydferthwch; o herwydd i mae un o drigolion yr _Uch Alban_, gwedi gosod allan ddau lyfr o waith _Ossian_; hen Fardd, meddai ef, cyn dyfod Cristianogaeth i'w plith. Ac i mae'r llyfrau hyn mewn rhagorbarch gan foneddigion dysgedig y _Saeson_. A rhaid addef eu bod wedi eu
PREV.   NEXT  
|<   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   70   71   72   73   74   75  
76   77   78   79   80   81   82   83   84   85   86   87   88   89   90   91   92   93   94   95   96   97   98   99   100   >>   >|  



Top keywords:
Beirdd
 

wneuthur

 

herwydd

 

dysgedig

 

deongli

 

genyfi

 
Saeson
 
honynt
 

oddiwrth

 
gwaith

chyfieithu

 

beidio

 
anwybodaeth
 

chwaneg

 

dywyll

 

oesoedd

 

dyfodiad

 

Gwilym

 
dysgediccaf
 
heddyw

Fasdardd

 

gellwch

 
canlyn
 
farwolaeth
 

Llywelyn

 

Gruffydd

 

barodd

 
drigolion
 

prydferthwch

 

anghyfaddas


ymddangos

 

Ossian

 

llyfrau

 

rhagorbarch

 
foneddigion
 

Cristianogaeth

 
meddai
 

Heblaw

 
bychan
 

Casgliad


heibio

 

bossibl

 

cyfieithu

 
prydyddiaeth
 

ddangos

 

wnaethum

 

ewyllys

 

derbyniant

 

ddichon

 
gobeithio